“Technoleg cadwyn bloc yw’r ddyfais bwysicaf mewn cyfrifiadura mewn cenhedlaeth.”
Defnyddiodd yr Athro Arnold Beckmann, Pennaeth Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, gyllid CHERISH i nodi arddangoswyr dilys ar gyfer ymchwil cadwyn bloc sy’n darganfod achosion defnydd lle mae cadwyn bloc yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i fusnesau.
Roedd y prosiect, a arweiniwyd gan Arnold, yn gysylltiedig â phartneriaid allanol megis Oyster Bay Systems, Riversimple, Tata Group UK, Sensore Consulting Ltd ac APT Film & Television Ltd (MetFilm). Roedd y partneriaid academaidd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Birmingham ac Uwch Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Japan, Ishikawa.
Meddai Arnold: “Technoleg cadwyn bloc yw’r ddyfais bwysicaf mewn cyfrifiadura mewn cenhedlaeth. Mae nawdd gan CHERISH-DE wedi fy ngalluogi i durio’n ddyfnach i wyddoniaeth cadwyn bloc a ffurfio perthnasau gwerthfawr gyda phartneriaid allweddol o fewn y diwydiant yn y DU a thramor.
Mae wedi darparu’r mecanweithiau cefnogi ymarferol i nodi achosion ymchwil byd go iawn sy’n llunio cwestiynau ymchwil, yn hytrach na chymryd agwedd gyfan gwbl academaidd. Mae wedi fy ngalluogi hefyd i brototeipio’r arddangoswyr a’r dulliau sydd eu hangen i’m harwain at gamau nesaf y maes ymchwil cyffrous hwn.”
Mae’r gwaith wedi cynhyrchu darganfyddiadau gwerthfawr ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu cerbydau a’r Economi Gylchol, gan gynnwys cydweithredu rhyngwladol gyda phartneriaid diwydiant logisteg yn Japan. Mae’n mynd i’r afael â heriau diogelu hunaniaeth a’r defnydd o gydrannau mewn gweithgynhyrchu cerbydau.
Mae wedi arwain at ddatblygu arddangoswr; peiriant ymddiriedaeth a yrrir gan gadwyn bloc ar gyfer olrheiniadwyedd mewn rhwydweithiau asedau er mwyn magu ymddiriedaeth mewn, ac olrhain y defnydd o, rannau gweithgynhyrchu cerbydau. Mae’n achosi newid (Prydlesu Dwys) mewn modelau busnes newydd o sut y gall cadwyni cyflenwi a pherchenogaeth cerbydau weithio fel rhan o’r Economi Gylchol. Mae cadwyn bloc yn elfen hanfodol i gyflawni hyn.
Mae Arnold hefyd wedi ysgrifennu pennod llyfr a gyhoeddir yn fuan, ‘Systemau ymddiriedaeth seiber corfforol seiliedig-ar-gadwyn bloc; sut i ychwanegu ymddiriedaeth fel elfen system benodol i systemau seiber corfforol.’