Nod y prosiect oedd archwilio cyfuniad mawr o ddata a gasglwyd drwy gydol y Prosiect Myfyrwyr sy'n Weithwyr Rhyw drwy ddefnyddio technegau delweddu a chloddio data. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl drwy weithio gyda chydweithwyr yn yr adran gyfrifiadureg i roi ystyr i'r data a gasglwyd eisoes. Wrth archwilio'r cyfuniad o ddata, cynhyrchodd y prosiect adnodd dadansoddol y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol. Cynhyrchwyd adroddiad i archwilio iechyd meddwl gweithwyr rhyw a myfyrwyr gweithwyr iechyd sy'n gam allweddol i ddeall eu llesiant. Roedd y cyllid CHERISH yn hynod werthfawr gan fod testun y prosiect hwn yn aml yn golygu y caiff ei ystyried yn anaddas neu'n amhriodol ar gyfer ffrydiau cyllid traddodiadol. Arweiniodd hyn at secondiad wedi'i ariannu gan CHERISH i National Ugly Mugs i archwilio dichonoldeb technolegau ar gyfer gwella cynhwysiad digidol i weithwyr rhyw. Roedd hyn yn cynnwys gwaith gydag Open Lab (canolfan EPSRC DE arall) a adnabu potensial am ragor o gydweithio rhwng canolfannau DE a'r Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb.
Yn ogystal, mae Debbie newydd gael cyllid CHERISH ar gyfer gweithdy cyfranogol i archwilio profiadau cyfredol o wasanaeth cefnogi gwaith rhyw, a gwella datblygiadau'r dyfodol o ran darparu gwasanaeth cefnogi gwaith rhyw i weithwyr rhyw. Bydd hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â chydweithwyr allweddol National Ugly Mugs, Cymru Ddiogelach StreetLife ac Include.