Dyddiad cau ar gyfer 2020 gweithredol i Ionawr 2021
**Sylwch, yng ngoleuni datblygiadau diweddar, mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'i ymestyn i Ionawr 2021. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau gwreiddiol ar 3 Ebrill yn cael eu hystyried ynghyd â'r rhai a dderbynnir erbyn ein dyddiad cau estynedig. Cyhoeddir mwy o wybodaeth am ddyddiadau diwygiedig ar gyfer y Sgiliau Labs yma ac ar ein cyfrif Twitter @CompFoundry cyn gynted ag y bydd y wybodaeth hon gennym. Diolch am eich amynedd. **
Mae Prifysgol Abertawe yn ymgymryd â'r rhaglen arweinyddiaeth sy'n cael ei chynnig ar draws y DU, i gynhyrchu a meithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ym maes yr Economi Digidol. Mae'r fenter yn rhan o Ganolfan Ymchwil yr Economi Ddigidol CHERISH yn y Brifysgol a rhwydwaith o 6 o Hybiau Economi Digidol yn y DU.
Mae'r rhaglen arweinyddiaeth yn cynnig cyfres o labordai sgiliau preswyl, mewn pedair dinas yn y DU, i gynnig cyfleodd unigryw i ryngweithio gyda chyfranogwyr pwysig yr economi ddigidol megis cynrychiolwyr o'r diwydiant, megis Amazon, Microsoft, Facebook, IBM, GIG, BBC R&D, a Google (i'w gadarnhau); cyfryngau, yn cynnwys BBC, Channel 4, the Conversation, Wired (i'w gadarnhau); cyrff cyllido megis EPSRC, AHRC ac ESRC, Wellcome Trust, Innovate UK; y Senedd (Swyddfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Senedd), ac entrepreneuriaid academaidd. Bydd hefyd yn cynnig gweithdy cynhwysfawr ar ysgrifennu ceisiadau am grantiau. Bydd y garfan hefyd yn gallu cyflwyno cynigion am gyllid sbarduno ar gyfer ymchwil drwy ddull cyllido Dragon's Den dan arweiniad academyddion blaenllaw, cynrychiolwyr o'r diwydiant a EPSRC.
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr fynychu'r holl labordai sgiliau. Telir yr holl gostau. Bydd costau teithio unigol yn cael eu had-dalu.
I ymgeisio, lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal Pair Economi Ddigidol y DU 2020, a'u dychwelyd at computationalfoundry@swansea.ac.uk
Dyddiad cau ceisiadau: Ionawr 2021