"Mae’r Crwsibl wedi rhoi amser i mi feddwl am fy ymchwil"
Lesley McIntyre, Uwch Ddarlithydd mewn Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig ym Mhrifysgol Northumbria
“Roedd y Crwsibl yn eithriadol o bwysig i mi. Roedd yn wych cael hoe o’r diwrnod gweinyddu ac addysgu academaidd arferol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Rhoddodd ‘ganiatâd’ i mi feddwl am fy ymchwil yn ogystal â rhoi sgiliau i mi gynllunio a chydbwyso baich gwaith.
Yr hyn yr oeddwn yn ei hoffi am y Crwsibl oedd bod pob math o bobl o wahanol ddisgyblaethau yn rhoi mewnbwn i’r rhaglen - i mi, roedd yn ymwneud â’r modd y gallai technolegau a chysyniadau pensaernïol gydweithio i gefnogi pobl mewn adeiladau. Rwy’n dal mewn cysylltiad gyda llawer o’m cymheiriaid yn y Crwsibl; fel ECRs rydym yn cefnogi ein gilydd. Mae’r rhwydwaith cefnogaeth hwn yn parhau i fod yn ddefnyddiol iawn i mi.
Astudiais bensaernïaeth yn y brifysgol, a gweithio mewn amryw o bractisys yn y DU ac Efrog Newydd, gan gynnwys practis amlwg iawn yn fwyaf diweddar. Fodd bynnag, dechreuais aflonyddu a chymryd cyfle i astudio ar gyfer PhD oedd yn canolbwyntio ar themâu canfod-ffyrdd, nam ar y golwg a thechnolegau. Ers hynny rwyf wedi canolbwyntio fy ngyrfa ar y ffiniau rhwng profiad dynol, technoleg, pensaernïaeth a’r amgylchedd adeiledig.
Gyda’r sgiliau a ddysgais gan y Crwsibl, rwyf wrthi’n ysgrifennu fy ngrant cyntaf. Cefais wahoddiad hefyd i Glasgow CHI eleni, yn seiliedig ar brosiect a ariannwyd i ni drwy CHERISH-DE. Ysbrydolwyd y prosiect gan ddigwyddiadau fel tân Cadeirlan Notre Dame, gan ystyried a allai robot asesu ac arolygu adeiladau mewn perygl, yn lle person. Fel yr unig ddylunydd pensaernïol yn yr ystafell, roedd yn dda cael hyder o’r sgiliau cyfathrebu a ddysgwyd yn y Crwsibl!
Mae’r Crwsibl wedi rhoi amser i mi feddwl am fy ymchwil ac rwy’n ailddarllen fy nodiadau Crwsibl yn rheolaidd er mwyn cadw ffocws."