Tîm Adborth Myfyrwyr y Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
Mae'r Tîm Adborth Myfyrwyr yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi data am adborth myfyrwyr at ddibenion gwella ansawdd, yn enwedig ymgysylltiad staff â chyfleoedd i fyfyrwyr roi adborth.
Mae'r tîm yma i gefnogi holl randdeiliaid y brifysgol, gan chwilio’n barhaus am ffyrdd o ymgysylltu'n gadarnhaol â chynifer o bobl, mor aml â phosibl. Ein nod yw gwella holl brofiadau unigol, ond hefyd addasu ein prosesau ein hunain i gefnogi anghenion adborth staff a myfyrwyr ymhellach.
Wedi gweithio mewn swyddfeydd cyfreithwyr am lawer o flynyddoedd gynt, yn fwy diweddar fel Cynorthwy-ydd Cyfreithiol Personol, ymunodd Haley â Phrifysgol Abertawe yn 2009. Mae Hayley wedi gweithio yn cefnogi gweinyddu achosion myfyrwyr mewn materion asesu, apeliadau, cwynion a disgyblu.
Mae ei rolau mwyaf diweddar wedi bod yn cefnogi'r Gwasanaethau Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr, a nawr mae Hayley'n gweithio fel Swyddog Adborth Myfyrwyr yn y tîm Gwasanaethau Ansawdd Academaidd gan weinyddu a chefnogi adborth ar fodiwlau ar gyfer y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Mae Hayley hefyd yn gyfrifol am ymgysylltiad staff a myfyrwyr ag adborth ar fodiwlau a chynnal a gwella arolygon a meddalwedd gysylltiedig.
E-bost: h.j.coffey@abertawe.ac.uk
Symudodd Sophie i rôl Swyddog yn y tîm Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn 2022, a chyn hynny bu’n Gynorthwy-ydd Adborth Myfyrwyr ar gyfer y Tîm Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr ers ymuno am y tro cyntaf yn 2018. Cyn hyn, enillodd Sophie radd Meistr mewn Cyfieithu o Brifysgol Abertawe.
Mae Sophie yn gyfrifol am weinyddu adborth ar fodiwlau ar gyfer y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a'r Coleg, creu ac adolygu’r arolygon adborth ar fodiwlau, hyrwyddo ymgysylltiad myfyrwyr a staff drwy feddalwedd arolwg, a dadansoddi data ansoddol o'r holl arolygon adborth myfyrwyr.
E-bost: s.m.l.thomas@abertawe.ac.uk
Cyn ymuno â'r Brifysgol enillodd Jac radd mewn Cerddoriaeth ac mae wedi gweithio o’r blaen i J.D. Wetherspoon ac Admiral cyn cymryd rhan yn y rhaglen TAR yn ystod 2020-2021. Mae ei brif gyfrifoldebau'n cynnwys y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, gan sicrhau bod holl arolygon y Gyfadran yn cael eu creu a'u hagor yn y cyfnod amser cywir a datrys unrhyw broblemau sydd gan aelodau'r Gyfadran.
Mae Jac yn gyfrifol am ddelio ag unrhyw ymholiadau e-bost, dadansoddi data myfyrwyr hanesyddol a chreu arolygon adborth ar fodiwlau.
E-bost: jac.p.davies@abertawe.ac.uk
Ymunodd Val â'r Brifysgol yn 2001 a gweithiodd yn y tîm Graddio am 6 blynedd. Gadawodd ei rôl i fyw a gweithio yn Cyprus, gan drefnu sesiynau hyfforddiant yn Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Saudi Arabia a Hong Kong. Dychwelodd i'r Brifysgol yn 2015 ac mae hi wedi cael swyddi yn MyUniHub a'r Tîm Partneriaethau ac Ymgysylltu â Myfyrwyr. Yn ystod y pandemig, gweithiodd Val yn MyUniSupport, gan roi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ar bob agwedd ar Covid a darparu data i'r awdurdodau perthnasol ar ffigyrau Covid y Brifysgol. Mae Val nawr yn gweithio yn y Tîm Adborth Myfyrwyr ac yn gyfrifol am ddelio ag ymholiadau e-bost, dadansoddi data myfyrwyr hanesyddol a chreu adolygon adborth ar fodiwlau.
E-bost: v.a.wilkins@abertawe.ac.uk