Trosolwg a Diben y Polisi
Mae Platfform Dysgu Digidol (DLP) yn hanfodol ar gyfer dysgu myfyrwyr yn yr 21ain Ganrif ac mae ganddo ystod eang o fanteision i’r holl fyfyrwyr, gan gynnwys hybu hygyrchedd a chyfranogiad mewn dysgu ag ymagwedd hollol gynhwysol.
Yn ogystal â rhoi DLP newydd ar waith, mae’r pandemig COVID19 diweddar wedi symud Prifysgol Abertawe at ymagwedd fwy hyblyg byth at ddarparu’r cwricwlwm, dysgu personol a phrofiad myfyrwyr. Felly, mae gwella’r Isafswm Safonau a Disgwyliadau ar gyfer ein Platfform Dysgu Digidol yn amserol.
Mae myfyrwyr yn dweud mai’r canlynol yw eu blaenoriaethau ar gyfer DLP effeithiol: dull llywio cyson a syml, gwybodaeth a deunyddiau sy’n hawdd dod o hyd iddynt, ac adnoddau sy’n hygyrch, yn drefnus ac wedi’u dyfeisio i gefnogi eu dysgu. At hynny, mae canlyniadau arolygon mewnol yn dangos bod myfyrwyr yn ddiolchgar iawn am ddeunyddiau dysgu hygyrch sydd ar gael cyn y sesiynau addysgu, a recordiadau ar ôl sesiynau addysgu drwy recordiadau fideo.
Mae polisi isafswm cynnwys gan Brifysgol Abertawe ers 2012 (wedi’i ddiweddaru yn 2013, 2015 a 2018). Diben y diweddariad yn 2020-21 yw datblygu defnydd DLP ymhellach yn y profiad dysgu a gwella cyfranogiad myfyrwyr yn unol â’r prosiectau niferus, uchelgeisiol sydd ar waith ledled y sefydliad.