Mae arsylwi ar gymheiriaid yn gefnogol ac yn gadarnhaol yn hytrach nag yn feirniadol, a’r un sy’n addysgu sy’n pennu’r maes y dylid canolbwyntio arno. Mae hon yn agwedd hanfodol ar arsylwi ar gymheiriaid sy’n helpu i fagu sgiliau myfyrio ac arloesi’r arsyllwr a’r un yr arsylwir arno.
Mae arsylwi ar gymheiriaid yn gefnogol ac yn ddatblygol yn hytrach nag yn feirniadol, a’r un sy’n addysgu sy’n pennu’r maes y dylid canolbwyntio arno. Mae hon yn agwedd hanfodol ar arsylwi ar gymheiriaid sy’n helpu i fagu sgiliau myfyrio ac arloesi’r arsyllwr a’r un yr arsylwir arno.
- Mae’r broses arsylwi ar gymheiriaid yn un orfodol ac mae’n rhaid i’r holl staff addysgu ymgymryd â hi o leiaf unwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, er yr anogir staff i arsylwi ar gymheiriaid yn fwy rheolaidd.
- Dylai rheolwyr gadarnhau yn ystod y cyfarfod Adolygiad Datblygiad Proffesiynol a gynhaliwyd gweithgaredd arsylwi ar gymheiriaid, ac anogir staff i rannu eu harsylwad(au) â’u rheolwyr llinell i ddangos eu bod wedi myfyrio ar eu harfer addysgu a’i wella.
- Dylai arsyllwyr fod yn aelodau o staff yr un ddisgyblaeth yn y Brifysgol, neu’n aelod o staff o faes cyfatebol, a dylid eu hamrywio o flwyddyn i flwyddyn. I sicrhau arfer teg ac effeithiol, ni ddylai’r broses fod yn ddwyochrog. Dylid ystyried bod arsylwi gan addysgwyr allanol (h.y. o sefydliadau neu faes ymarfer arall) yn atodol i’r broses fewnol.
- Rhaid defnyddio’r ffurflen arsylwi ar gymheiriaid a gymeradwywyd gan y Brifysgol.
Bwriedir i’r broses fod yn ddwyffordd, lle bydd yr un yr arsylwir arno a’r arsyllwr yn cyfrannu’n weithredol at y broses. Disgwylir i’r arsyllwr fod yn bresennol ar gyfer y sesiwn gyfan ac iddo gynnig sylwadau manwl. Gall arsylwi ar gymheiriaid gynnwys yr ystod lawn o weithgareddau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, teithiau maes a dosbarthiadau ymarferol.
Dylai arsyllwyr ystyried:
- Dyluniad y deunyddiau addysgu, e.e. cynllun cyflwyniad PowerPoint, deunyddiau ategol.
- Deilliannau dysgu a gweithgareddau/tasgau dysgu, e.e. cyfleoedd ar gyfer dysgu gwrthdro.
- Tasgau asesu, gan gynnwys darparu deunyddiau, enghreifftiau, arweiniad ar aseiniadau a chynlluniau marcio.
- Adnoddau dysgu ar-lein a chyfunol – gweler y ffeithlun.
- Y cyfleoedd a ddarperir i bob myfyriwr, waeth beth yw ei hunaniaeth a’i gefndir.