Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Amdanom ni
- Canmlwyddiant 2020
- Hanes a threftadaeth
- Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
- Bywyd y campws
- Cynaliadwyedd
- Chwaraeon
- Astudio
- Datblygu'r Campws
- Swyddfa'r Wasg
- Sut i ddod o hyd i ni
- Diwrnod Agored Rhithwir
- Ein Cyfadrannau
- Swyddi a Gweithio yn Abertawe
- Academi Hywel Teifi
- Adran Partneriaethau Academaidd
- Gwasanaethau Academaidd a Cyfarwyddiaeth yr Academïau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Codau Ymarfer
- Sicrhau Ansawdd
- Polisïau
- Polisi Prifysgol Abertawe ar Recordio Darlithoedd a Chynnwys
- Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau
- Polisi Cadw Cyrsiau’r Amgylchedd Dysgu
- Polisi Adborth Modiwlau
- Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth am Fodiwlau
- Polisi ar Arsylwi ar Addysgu gan Gymheiriaid
- Polisïau sy'n Ymwneud ag Addysg
- Polisïau Eraill
- Safonau Gofynnol ar gyfer Ymarfer Addysg
- Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig
- Adolygiad Ansawdd
- Polisïau
- Cwrdd â Thîm
- Rhagoriaeth Addysgu
- Llyfrgelloedd ac Archifau
- Gwasanaethau Ansawdd Academaidd
- Hygyrchedd
- Cynwysoldeb ac Ehangu Mynediad
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Staff
- Gwerthoedd
- Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
- Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
- Ymrwymiad i Technegwyr
Cyflwyniad
Mae Prifysgol Abertawe yn sefydliad dwyieithog. Rydym yn cefnogi hawliau ein myfyrwyr, ein staff a'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn y Brifysgol, fel rhan o'u hastudiaethau academaidd, yn eu gwaith o ddydd i ddydd ac yn gymdeithasol.
Er mwyn hwyluso hyn mae gan Brifysgol Abertawe wasanaeth cyfieithu mewnol sydd ar gael yn rhad ac am ddim i holl staff y Brifysgol er mwyn eu cefnogi i gyflawni gwaith a dyletswyddau swyddogol y Brifysgol. Mae’r gwasanaeth hefyd ar gael yn rhad ac am ddim i gyrff a sefydliadau sydd mewn partneriaeth â’r Brifysgol, lle mae’r Brifysgol yn brif bartner ariannol.
I bwy mae’r polisi hwn yn berthnasol?
Mae'r Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig hwn yn berthnasol i bob Cyfadran ac uned Gwasanaethau Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal ag unrhyw is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i’r Brifysgol ac unrhyw gwmni trydydd parti sy’n darparu cynnwys academaidd ar gyfer myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig ar ran y Brifysgol yn rhinwedd y gwaith a gytundebwyd i’w gyflawni.
Strwythur adrodd
Mae Pwyllgor Strategaeth yr Iaith Gymraeg (PSIG) yn adrodd i Uwch-Dîm Arweinyddiaeth (UDA) y Brifysgol. Cadeirir y Pwyllgor hwn gan Yr Athro Gwenno Ffrancon, sydd â chyfrifoldeb dros faterion Iaith Gymraeg a Chymreig a chenhadaeth ddinesig a diwylliant Cymraeg yn y Brifysgol.
Rôl Pwyllgor Strategaeth y Gymraeg yw datblygu a gwireddu strategaeth Camu Ymlaen a thyfu a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r pwyllgor yn gweithredu fel cynghorydd arbenigol i’r UDA gan argymell newidiadau i’r strategaeth gyffredinol, neu fentrau unigol, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd o gyflawni amcanion strategol y Brifysgol. Mae’r Pwyllgor yn goruchwylio gwaith Academi Hywel Teifi, Cangen Abertawe o'r Coleg Cenedlaethol Cymraeg, a’r gwaith cydymffurfiaeth iaith a Safonau'r Gymraeg. Mae’r Pwyllgor hefyd yn cadw Cofrestr Risg o gyfrifoldebau’r sefydliad a’i gweithgareddau sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac mae diffygion na ellir eu datrys yn cael eu hadrodd i’r UDA.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried ac yn cymeradwyo, cyn cyflwyno, ymatebion y Brifysgol i gynigion a pholisïau sydd wedi’u rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a chyrff megis Comisiynydd y Gymraeg, CCAUC a’r Coleg Cymraeg. I’r perwyl hynny, bydd hefyd yn mynd ati i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn y Brifysgol ac amlygu ei phwysigrwydd.
Ceir Pwyllgor Darpariaeth y Gymraeg ym mhob Cyfadran, sy’n adrodd i Bwyllgor Strategaeth y Gymraeg trwy Arweinwyr y Gymraeg ym mhob Cyfadran. Mae Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi yn aelod o Uwch-Dîm Arweinyddiaeth Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol sy’n hwyluso cyd-gynllunio cynnar ar brosiectau o ran y Gymraeg.
Egwyddorion cyffredinol
Mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymo i gydymffurfio â’r egwyddorion sy’n sail i waith Comisiynydd y Gymraeg, sef:
- Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
- Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny
Er mwyn gwneud hynny, bydd Prifysgol Abertawe yn:
- Annog ac yn cefnogi myfyrwyr, staff ac eraill sy’n dod i gyswllt â’r Brifysgol i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gan hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn rhagweithiol a galluogi pob aelod o gymuned y Brifysgol i feithrin perthynas ystyrlon â’r iaith a’i diwylliant.
- Sicrhau y bydd y gwasanaethau yr ydym yn eu cyflenwi yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg o’r un ansawdd yn Gymraeg a Saesneg – yr un mor weledol, yr un mor hawdd eu defnyddio a’r un mor effeithiol.
- Cofnodi dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) ein staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr. Darperir gohebiaeth a gwasanaethau ar eu cyfer yn unol â’r dewis iaith hwnnw.
- Gwirio bod ein polisïau a systemau recriwtio staff yn sicrhau bod capasiti dwyieithog i’w gael yn gyson ar draws ystod o wasanaethau ac adrannau’r Brifysgol.
- Sicrhau bod ein polisïau, ein cynlluniau a’n prosiectau yn rhoi ystyriaeth lawn a lle canolog a naturiol i’r Gymraeg o’r dechrau’n deg rhag tanseilio statws neu ddefnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad.
- Sicrhau ystod o gyfleoedd ac anogaeth i’n staff ddatblygu a chryfhau eu sgiliau Cymraeg, gyda’r nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng ngweithleoedd y Brifysgol.
- Darparu cyfleoedd i’n myfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg a derbyn cefnogaeth i wneud hynny.
- Defnyddio arbenigedd ymchwil i gynllunio’n rhagweithiol a blaengar er lles defnydd o’r Gymraeg yn y Brifysgol ac yn ehangach.
- Cofnodi penderfyniadau, prosesau, llwyddiannau a chwynion sy’n berthnasol i’r Gymraeg.
Cyfieithu cynnwys academaidd
Beth sydd angen ei gyfieithu yn ôl gofynion Safonau y Gymraeg?
Nid yw cynnwys academaidd yn cwympo dan ofynion Safonau’r Gymraeg ond mae’n ddisgwyliad gan y Brifysgol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fod y sawl sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn derbyn cynnwys academaidd ysgrifenedig yn Gymraeg sy’n cyfateb i’r cynnwys a gyflwynir iddynt ar lawr y dosbarth er mwyn cefnogi eu dysgu.
Noder bod canllawiau penodol i staff sydd yn trefnu digwyddiadau neu gyfarfodydd amrywiol ar gyfer myfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Ceir arweiniad ar weminarau, cyfarfodydd â myfyrwyr, gweithdai hyfforddiant a darlithoedd cyhoeddus.
Beth yw cynnwys academaidd ysgrifenedig?
- Dehonglir cynnwys academaidd fel:
- darlithoedd pwnc
- sleidiau pwyntpwer (neu feddalwedd debyg)
- llawlyfrau neu daflenni gwaith sy’n rhoi arweiniad pwnc benodol. - Ni chaiff y canlynol eu hystyried yn gynnwys academaidd ysgrifenedig ac felly dylid sicrhau bod yr rhain yn cael eu cyfieithu er mwyn ateb gofynion y Safonau:
- llawlyfrau gyda gwybodaeth gyffredinol i fyfyrwyr am drefniadau ymarferol modiwlau (os yn fodiwlau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog) neu weithgaredd addysgiadol cyffredinol eu hysgolion neu gyfadrannau
- cyfarwyddiadau gweinyddol (e.e. nodyn atgoffa dyddiad cau asesiad; negeseuon brys i ganslo darlithoedd).
Beth yw’r diffiniad o fodiwl cyfrwng Cymraeg?
Cofnodir unrhyw gynnwys iaith Gymraeg a gynigir o fewn darpariaeth addysgiadol pwnc sy’n cyrraedd cyfanswm o 5 credyd neu fwy yn nata astudio cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Gall y 5 credyd hwn fod o fewn un modiwl penodol neu ar draws nifer o fodiwlau.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaeth ar draws y pynciau, gan gyflwyno’r ddarpariaeth mewn amrywiol ffyrdd ac i lefelau gwahanol. Er enghraifft, mae rhai pynciau’n cynnig modiwlau cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg ac eraill yn cynnig elfennau gwahanol yn Gymraeg ac yn Saesneg e.e. darlithoedd yn Saesneg a seminarau neu weithdai labordai yn Gymraeg.
Cofnodir pob gweithgarwch addysgiadol yn y Gymraeg yn nata y Brifysgol, ond mae targedau penodol gan y Brifysgol o ran niferoedd myfyrwyr sy’n astudio 40 credyd y flwyddyn o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma’r targed sy’n cynnig profiad addysgol cyfrwng Cymraeg ystyrlon i fyfyrwyr.
Ni ddylid labelu modiwlau sydd ond yn cynnig cyfle i sefyll arholiad neu gwblhau asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg fel modiwl ‘cyfrwng Cymraeg'. Mae gan fyfyrwyr hawl gyfreithiol i gael eu hasesu yn y Gymraeg beth bynnag fo iaith yr addysgu.
Beth sydd angen ei gyflwyno yn Gymraeg i fyfyrwyr sy’n dilyn darpariaeth addysgiadol cyfrwng Cymraeg?
Disgwylir bod y canlynol fan lleiaf yn cael ei baratoi yn Gymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio modiwlau a gaiff eu haddysgu yn Gymraeg neu yn ddwyieithog:
- Darlithoedd, seminarau neu diwtorialau (yn ddibynnol ar ba elfen sy’n cael ei chyflwyno yn Gymraeg)
- Sleidiau neu adnoddau gweledol i gyd-fynd â’r hyn a gyflwynir yn Gymraeg trwy ddarlithoedd neu seminarau
- Taflenni gwaith atodol
- Tudalennau Canvas
- Cwestiynau aseiniad/arholiad/prawf a’r fanyleb atodol
- Llyfryddiaeth sy’n cynnwys testunau a ffynonellau cyfrwng Cymraeg lle bo modd
Asesu gwaith myfyrwyr trwy gyfrwng Cymraeg
Mae hawl gyfreithiol gan bob myfyriwr i gyflwyno aseiniadau neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny os ydynt yn astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn Saesneg. Ceir manylion pellach am y broses y bydd angen i fyfyrwyr ei dilyn er mwyn nodi eu dymuniad i gyflwyno eu gwaith trwy’r Gymraeg ar y dudalen we Cyflwyno gwaith ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg - Prifysgol Abertawe. Mae canllaw i staff ar sut i weithredu’r polisi a’r broses o asesu gwaith myfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg i’w gael trwy’r dudalen we Asesu ac Arholiad mewn Iaith Arall - Prifysgol Abertawe.
Egwyddorion cyfieithu cynnwys academaidd ysgrifenedig
- Pennir dwy egwyddor sylfaenol i’r Polisi Cyfieithu Cynnwys Academaidd Ysgrifenedig hwn:
i. Disgwylir i staff academaidd sydd wedi eu penodi i swyddi dysgu cyfrwng Cymraeg greu deunydd craidd addysgol (cynnwys pynciol) gwreiddiol eu hunain, yn y Gymraeg. Mae’r gofyniad i baratoi cynnwys gwreiddiol yn Gymraeg yn swydd-ddisgrifiad y staff hyn.
ii. Gall staff academaidd, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, sy’n cefnogi y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu maes ac sydd heb eu penodi’n benodol i wneud hynny, ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu yn llawn. - Ni ddylai staff academaidd sydd wedi eu penodi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg gyflwyno cynnwys academaidd ysgrifenedig cyfrwng Saesneg y maent wedi ei baratoi eu hunain i wasanaeth cyfieithu’r Brifysgol er mwyn ei gael yn Gymraeg. Gall staff academaidd droi at y Gwasanaeth Cyfieithu am gefnogaeth prawf-ddarllen os y dymunant.
- Mewn achosion lle gofynnir i staff academaidd cyfrwng Cymraeg ddefnyddio neu addasu deunyddiau cwrs Saesneg sydd wedi eu paratoi gan gydweithwyr eraill, er mwyn iddynt fedru darparu cwrs neu fodiwl drwy gyfrwng y Gymraeg, yna caniateir i’r gwaith hwn gael ei gyflwyno i’r Uned Gyfieithu.
- Mae modd i holl staff y Brifysgol gyflwyno dogfennau sydd yn cefnogi gweinyddiaeth neu drefniadau ymarferol darpariaeth addysgiadol i’w cyfieithu. Dylid nodi ei bod hi’n ddisgwyliad yn ôl Safonau y Gymraeg bod y ddogfennaeth hon ar gael yn Gymraeg i fyfyrwyr.
- Ar gyfer modiwlau a gaiff eu haddysgu trwy’r Gymraeg neu yn ddwyieithog, dylai staff academaidd baratoi cwestiynau aseiniadau neu bapurau arholiad yn Gymraeg neu yn ddwyieithog a’u cyflwyno i’r myfyrwyr ar yr un amser ac yn ddi-ofyn. Gall holl staff y Brifysgol gyflwyno teitlau aseiniadau a/neu bapurau arholiad i’w cyfieithu neu eu prawf-ddarllen i’r Gwasanaeth Cyfieithu, a dylid gwneud hynny gan gofio am y canllaw amser dychwelyd y mae’r Uned Gyfieithu yn gweithio iddo.
Atgoffir holl staff y Brifysgol fod cefnogaeth i ddysgu neu loywi sgiliau iaith Gymraeg ar gael am ddim trwy Uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.
Sut mae gwneud cais am gyfieithu?
Rhennir gwasanaeth Cyfieithu'r Brifysgol yn dri phrif faes:
- Cyfieithu ysgrifenedig a phrawf-ddarllen
- Gwasanaeth Cyfieithu Cyflym (100 gair neu lai a'r gwaith i'w ddychwelyd o fewn 24 awr)
- Cyfieithu ar y pryd, yn cael ei gynnig wyneb yn wyneb neu dros Zoom
Gall staff gyflwyno gwaith i’w gyfieithu drwy’r system ServiceNow trwy dudalen we'r Uned Cyfieithu Prifysgol Abertawe/Swansea.
Mae canllawiau ar arferion da wrth gyflwyno gwaith i’w gyfieithu ar gael trwy’r dudalen we Cyfieithu ysgrifenedig - Prifysgol Abertawe.
Ni ddylai staff y Brifysgol drefnu cyfieithu gan gwmni allanol ar unrhyw gyfrif – rhaid cyflwyno pob cais am gyfieithu i’r Gwasanaeth Cyfieithu mewnol a fydd yn darparu arweiniad pellach.
Dyma ganllaw ar gyfer yr amser dychwelyd disgwyliedig yn ôl nifer y geiriau:
Tasg | Amser dychwelyd disgwyliedig |
---|---|
Pob cais am gyfieithiad ysgrifenedig o 100 gair neu lai | 24 awr |
Pob cais am gyfieithiad ysgrifenedig rhwng 100 a 1,000 o eiriau wedi'i gyfieithu a'i brawf-ddarllen | 3 diwrnod gwaith |
Pob cais am gyfieithiad ysgrifenedig rhwng 1,000 a 10,000 o eiriau wedi’i gyfieithu a’i brawf-ddarllen | 10 niwrnod gwaith |
Pob cais am gyfieithiad ysgrifenedig am ddogfennau dros 10,000 o eiriau | 20 niwrnod gwaith |
Dogfen o fwy na 25,000 gair | Cysylltwch â cyfieithu@abertawe.ac.uk i gytuno ar amserlen addas |
Deddfwriaeth A/Neu Ddogfennaeth Berthnasol
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dylid cyfeirio at yr Hysbysiad Cydymffurfio y mae'r Brifysgol wedi ei dderbyn.
Camu Ymlaen: Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe 2022-27
Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cynllun Academaidd Addysg yng Nghymru: Cenhedlaeth ein Cenedl
Gyda’n Gilydd at y Miliwn: Cynllun Strategol 2021 ymlaen y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol