2.1
Sicrhewch fod tudalennau cyrsiau ar Canvas yn bodloni'r safonau a'r disgwyliadau gofynnol fel y'u nodir yn y Platfform Dysgu Digidol: Polisi Isafswm Safonau a Disgwyliadau.
2.2
Mae gwybodaeth lawn am fodiwlau ar gael ar Canvas ar ddechrau'r tymor academaidd, gan fanylu ar yr amserlen addysgu, dulliau a phynciau i'w hastudio, rhestrau darllen llawn ac unrhyw fanylion perthnasol eraill, megis manylion cyswllt. Dylai'r wybodaeth hon gael ei chyhoeddi wythnos cyn dechrau'r tymor.
2.3
Dylai deunyddiau dysgu ar gyfer pob sesiwn fod ar gael o leiaf 48 awr ymlaen llaw mewn fformat hygyrch.
2.4
Dylai'r holl weithgareddau addysgu gael eu recordio a'u postio o fewn dau ddiwrnod gwaith. Darllenwch Bolisi Prifysgol Abertawe ar Recordio Darlithoedd am ragor o fanylion. Gellir gwneud eithriadau ar gyfer gweithgareddau penodol megis cyrsiau maes, sesiynau ymarferol, gweithdai a seminarau, neu os bydd y system TG yn methu. Lle mae'r system TG wedi methu, ystyriwch bostio deunyddiau o'r flwyddyn flaenorol neu gyfeirio myfyrwyr at adnoddau ategol eraill.
2.5
Gwnewch yn siŵr bod gofynion dysgu penodol myfyrwyr, gan gynnwys astudio drwy'r Gymraeg neu ddewisiadau cyfathrebu, yn cael eu gwirio ar ddechrau'r tymor addysgu a thrwy gydol y tymor, fel bod staff yn ymwybodol o ofynion addasu rhesymol ar gyfer myfyrwyr ar eu modiwlau.
2.6
Cymerwch ran mewn modd effeithiol a chyson mewn prosesau sydd â'r nod o gynnal a gwella ansawdd a safonau, megis darparu diweddariadau ynghylch pro-fformas modiwlau, cymedroli asesiadau a gwerthuso modiwlau.
2.7
Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn cael gwybod am y model adborth gwerthuso modiwlau, ynghyd â chyfleoedd eraill i roi adborth, pam mae'n bwysig a sut mae'n cael ei ddefnyddio. Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu gwahodd a'u hannog i roi adborth parhaus am ddulliau a deunyddiau dysgu, modiwlau a rhaglenni. Ymatebir i'r holl adborth gan fyfyrwyr ar adegau priodol, wrth i'r modiwl gael ei addysgu i sicrhau bod y cylch adborth yn cael ei gwblhau.
2.8
Dylai adnoddau ategol ar-lein gael eu darparu i'r holl fyfyrwyr, gan gynnwys lle bo'n briodol restrau priodol â diffiniadau clir o iaith dechnegol, symbolau a thermau allweddol.
2.9
Cyn i'r addysgu ddechrau, dylai staff ymweld â'u lleoedd addysgu ac ymgyfarwyddo â'r cyfarpar clyweledol a recordio darlithoedd.
2.10
Dylai staff adael yr ystafell mewn cyflwr priodol i alluogi'r gweithgaredd addysgu nesaf i gael ei gynnal yn effeithlon (e.e. peidiwch â diffodd cyfrifiaduron na symud ceblau HDMI, cliriwch y bwrdd a gosod microffonau yn eu gwefrwyr). Dylai gweithgareddau addysgu lynu wrth yr amserau a ddynodir iddynt a chaniatáu amser i fyfyrwyr gyrraedd a gadael (e.e. mae darlithoedd yn dechrau ar yr awr ac yn gorffen am ddeng munud i'r awr).
2.11
Dylech chi roi gwybod am unrhyw broblemau gyda'r cyfarpar cylweledol a recordio er mwyn sicrhau bod modd cynnal darlithoedd dilynol yn effeithlon. Ffoniwch estyniad 4000 os oes problem mae angen ei datrys ar unwaith, e.e. cyfarpar y ddarlithfa'n methu. Os nad yw'r ymholiad yn un brys, e-bostiwch AVsupport@abertawe.ac.uk. Gweler Gwasanaethau Clyweledol - Prifysgol Abertawe.
2.12
Rhaid i'r holl staff addysgu gymryd rhan yn y broses arsylwi gan gymheiriaid o leiaf unwaith y flwyddyn.