Chemical engineering equipment

Pam dewis peirianneg gemegol yn Abertawe?

Mae peirianwyr cemegol yn gweithio'n agos gyda phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynnyrch gwerthfawr at ddefnydd pobl. Mae ein myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau i sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod sgil-gynhyrchion yn cael eu gwaredu mewn ffordd ddiogel sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

O ysgrifennu llyfrau testun awdurdodol ar beirianneg gemegol igeisio datrys problemau prinder dŵr y byd, mae gan Brifysgol Abertawe draddodiad balch o ddarparu atebion arloesol drwy beirianneg brosesu.  

Mae ein graddau Peirianneg Gemegol yn datblygu meysydd peirianneg gemegol sefydledig mewn perthynas ag ynni, iechyd, bwyd, dŵr a'r amgylchedd, a byddwch chi'n elwa o'n cysylltiad agos â chwmnïoedd peirianneg lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Acordis, Astra Zeneca, Avecia, Chemicals, GlaxoSmithKline, Nestle, Murco, Phillips 66, Unilever a Valero.

GWEFINARS PEIRIANNEG CEMEGOL

Reshaping Tomorrow: The Vital Role of Chemical Engineering

Mae'r Athro Enrico Andreoli yn amlinellu rolau allweddol Peirianneg Gemegol a'i bwysigrwydd

Gweld yma

How Chemical Engineers are making the world a better place

Ymunwch â Dr Francesco Del Giudice wrth iddo drafod pam fod Peirianneg Gemegol o Bwys

Gweld yma

Chemical Engineers & Their Role in Tackling Global Challenges

Darganfyddwch sut mae Peirianwyr Cemegol yn mynd i'r afael â'r heriau hyn ac yn siapio'r dyfodol.

Gweld yma

Solving global problems using nanotechnology and engineering principles

Dysgwch am egwyddorion peirianneg a ddefnyddiwyd gyda nanotechnoleg i gynhyrchu ceblau trydan

gweld yma

Mae peirianneg gemegol wedi gael ei achredu gan…

Logo y cyngor peirianneg
logo IChemE