Mae’r Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Ddigidol hwn yn nodi’r amodau ar gyfer defnyddio technoleg ddigidol a gwybodaeth Prifysgol Abertawe, er mwyn sicrhau bod technoleg ddigidol a gwybodaeth y Brifysgol yn cael ei defnyddio’n rhydd, yn ddiogel, yn gyfreithlon, yn deg ac yn ystyrlon o eraill. Mae’n ofynnol i holl ddefnyddwyr technoleg ddigidol a gwybodaeth y Brifysgol gydymffurfio â’r polisi hwn.

Amcan y Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Ddigidol yw cyflawni a chynnal sefyllfa lle mae’r holl wybodaeth bob amser ar gael i bawb sydd ei hangen, lle na ellir ei llygru na’i datgelu i bobl anawdurdodedig a bod modd dilysu ei tharddiad. Mae hyn yn cynnwys sicrhau:

1.1.1 Cyfrinachedd
Sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bobl awdurdodedig yn unig drwy gydol ei hoes gyfan;

1.1.2 Uniondeb
Diogelu cywirdeb a chyflawnrwydd gwybodaeth a dulliau prosesu, a sicrhau mai dim ond personau awdurdodedig a all eu haddasu;

1.1.3 Argaeledd
Sicrhau bod gan ddefnyddwyr awdurdodedig fynediad at wybodaeth ac asedau cysylltiedig pan fo angen;

1.1.4 Anymwrthod
Sicrhau bod anfonwr gwybodaeth yn cael prawf danfon a bod y derbynnydd yn cael prawf o hunaniaeth yr anfonwr, felly ni all y naill na’r llall wadu’n ddiweddarach ei fod wedi prosesu’r wybodaeth. Yn ogystal, gallu dangos tystiolaeth bod unigolyn wedi cael mynediad at wybodaeth ac a yw wedi’i newid ai peidio, gan sicrhau na ellir gwadu gweithredoedd.

Yn ychwanegol;

1.1.5 Dyletswydd Atal
Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau penodedig i roi sylw dyladwy i’r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth, sef y ddyletswydd Atal. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i gydymffurfio â’r ddyletswydd Atal, gan amddiffyn ei staff, myfyrwyr a defnyddwyr eraill rhag cynnwys sy’n radicaleiddio.