Amcan seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth yw cyflawni a chynnal sefyllfa lle mae'r holl wybodaeth a data (ffisegol a digidol) bob amser ar gael i bawb sydd eu hangen ac sydd wedi'u hawdurdodi i gael mynediad atynt, lle na ellir eu llygru na'u datgelu i bobl anawdurdodedig, a bod eu tarddiad wedi’i ddilysu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau:

Cyfrinachedd
sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bobl awdurdodedig yn unig drwy gydol ei hoes gyfan;

Uniondeb
diogelu cywirdeb a chyflawnrwydd gwybodaeth a dulliau prosesu, a sicrhau mai dim ond personau awdurdodedig a all eu haddasu;

Argaeledd
sicrhau bod gan ddefnyddwyr awdurdodedig fynediad at wybodaeth ac asedau cysylltiedig pan fo angen;

Anymwrthod
y sicrwydd bod anfonwr gwybodaeth yn cael prawf danfon a bod y derbynnydd yn cael prawf o hunaniaeth yr anfonwr, felly ni all y naill na'r llall wadu'n ddiweddarach ei fod wedi prosesu'r wybodaeth. Yn ogystal, gallu dangos tystiolaeth bod unigolyn wedi cael mynediad at wybodaeth ac a yw wedi'i newid ai peidio, gan sicrhau na ellir gwadu gweithredoedd.

Polisi'r Brifysgol yw sicrhau bod asedau gwybodaeth yn cael eu diogelu'n briodol rhag pob bygythiad, boed yn fewnol neu'n allanol, yn fwriadol neu'n ddamweiniol. Felly, mae'r polisi yn ei gwneud yn ofynnol bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i wrthsefyll ymyriadau i weithgareddau busnes ac i amddiffyn prosesau busnes hanfodol rhag effeithiau methiannau mawr systemau gwybodaeth, trychinebau a mynediad heb awdurdod.

Cyflawnir hyn trwy weithredu cyfuniad o reolaethau sefydliadol a thechnegol a gefnogir gan ganllawiau a phrosesau sydd wedi'u cynllunio i ganfod, atal ac oedi ymosodiadau diogelwch a hwyluso ymchwiliadau.