Cyllid i Fyfyrwyr y DU
Mae'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn grant i’ch helpu gyda chostau ychwanegol y gallech eu hwynebu oherwydd anabledd. Gall helpu i dalu am bethau fel meddalwedd gyfrifiadurol, tiwtoriaid sgiliau astudio arbenigol, rhywun i gymryd nodiadau, mentora arbenigol a chostau teithio.
Cofia ddechrau dy gais am DSA mor gynnar â phosibl oherwydd gall y broses gymryd hyd at 14 wythnos.
Os ydych chi’n ansicr a ddylech chi wneud cais am DSA, cysylltwch â’ch corff cyllido cyn gynted â phosib:
Cyrff cyllido eraill
Gall y broses ymgeisio fod yn wahanol ar gyfer cyrsiau a chyrff cyllido penodol. Dylet ti gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd am ragor o gyngor ar gyflwyno cais am DSA os yw’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:
- Rydych chi'n byw yng Ngweriniaeth Iwerddon
- Byddwch yn astudio am MSc mewn Gwaith Cymdeithasol
- Byddwch yn derbyn bwrsariaeth gan gyngor ymchwil (e.e. yr EPSRC)
- Mae eich cwrs yn denu cyllid gan GIG Cymru (e.e. Nyrsio, Gwyddor Barafeddygol)
Cyllid i fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr yr UE
Mae Prifysgol Abertawe'n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ag anableddau. Mae’n bwysig i chi ddweud wrthym am eich anghenion cymorth cyn gynted â phosib fel y gallwn siarad â chi am opsiynau.
Er na all myfyrwyr rhyngwladol hawlio DSA, efallai y gallwch gael cyllid drwy eich llywodraeth gartref, noddwyr neu ysgoloriaethau. Mae'n bosib y bydd ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol y gallwch gyflwyno cais am gyllid iddynt, megis Cynllun Dyfarniadau'r Snowdon Trust sy’n cynnig grantiau i gefnogi myfyrwyr â chyflyrau corfforol neu synhwyraidd.
Mae’r British Council yn darparu rhagor o wybodaeth.