Trwy’r pandemig Coronafeirws mae cymunedau ac unigolion wedi angen cefnogaeth; p'un ai yw am rhoi bwyd ar y bwrdd neu gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.
Mae rhai busnesau wedi gweithredu i gefnogi eu cymunedau mewn ffyrddau newydd ac arloesol, gan ddarparu gwasanaethau (am ddim neu am bris cost) neu gydweithio i yrru mentrau at ei gilydd i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed.
Fodd bynnag, mae yna lawer o fusnesau hoffai gefnogi eu cymunedau a'r sefydliadau cyhoeddus / trydydd sector sy'n gweithredu yn eu hardal, ond sydd angen cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol neu fynediad at rwydweithiau a hyfforddiant i wneud hynny.
Mae'r Prosiect Cymunedau Entrepreneuraidd ac Arloesol wedi'i sefydlu i alluogi cwmnïau lleol i ddod yn fwy cymdeithasol gyfrifol a chefnogi'r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Nod y prosiect yw: