Am Gontractwyr
Polisi'r Brifysgol
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig, cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol, i sicrhau y caiff ei gweithgareddau busnes eu cynnal mewn ffordd nad yw'n achosi salwch nac anaf i staff, myfyrwyr, ymwelwyr, contractwyr nad unrhyw un y gallai'r gweithgareddau hynny effeithio arnynt, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Mae'r Polisi Iechyd, Diogelwch a Gwydnwch y Brifysgol, ynghyd â threfniadau cysylltiedig yn berthnasol i gyflogeion a gweithgareddau contractwyr.
Mae trefniadau penodol yn y Brifysgol ar waith i sicrhau y caiff contractwyr yn y Brifysgol eu rheoli, gan gynnwys trefniadau er mwyn gwneud y canlynol:
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol ac ymgymryd â dyletswyddau statudol sy'n gysylltiedig ag unrhyw gontractwyr.
- Nodi cymhwysedd contractwyr a monitro perfformiad contractwyr tra byddant yn gwneud gwaith ar gampws y Brifysgol, a/neu wrth weithio ar ran y Brifysgol. Gallai ymarferion gweithio anniogel neu amhriodol arwain at ddod â'r gweithgaredd i ben/terfynu'r contract.
- Cyfathrebu, cydweithio ac ymgynghori â chontractwyr yn brydlon, gan alluogi'r holl bartïon i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol y Brifysgol
- Galluogi ymagwedd ragweithiol, sy'n seiliedig ar risg mewn perthynas â holl weithgareddau contractwyr.
- Nodi a rheoli risg a rhoi trefniadau rheoli risg effeithiol sy'n cael eu cyfathrebu a'u deall ar waith.
- Nodi a rheoli gweithgareddau risg uchel, gan ddefnyddio system trwydded i waith y Brifysgol
- Darparu goruchwyliaeth briodol, ac fel y bo'n berthnasol, cynnig gwybodaeth, cyfarwyddiadau a hyfforddiant iechyd a diogelwch.
Gofynion Contractwyr
Rhaid bod gan yr holl gontractwyr fynediad at gyngor iechyd a diogelwch cymwys a chydymffurfio â holl ofynion cyfreithiol y Brifysgol, gan sicrhau bod eu gweithgareddau'n cael eu cynnal mewn ffordd sy'n lleiafu'r risgiau iddyn nhw eu hunain ac eraill y gellir bod effaith arnynt.
Ar y campws:
- Cofrestrwch wrth gyrraedd y campws gyda Gwasanaethau Technegol Ystadau neu'r Prif Gontractwr:
- Campws Singleton – Adeilad Talbot, Ystafell 004, Mynedfa'r De
- Campws y Bae – Nanhyfer, Llawr Cyntaf, Ystafell 107
- Dylech gynnal gwaith yn unol â'ch asesiad risg a'ch datganiad o ddull.
- Dylech adrodd am unrhyw broblemau neu bryderon i Ystadau a Rheoli Cyfleusterau cyn gynted â phosib
- Dylech lynu wrth côd ymddygiad (ar gael gan eich cyswllt yn y Brifysgol)
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â threfn eich amgylchedd gwaith, eich bod chi'n deall y peryglon, y risgiau a'r mesurau rheoli sydd ar waith.
- Rhaid glynu wrth reolau a gofynion adrannol, e.e. ardaloedd cyfyngedig/gweithgareddau a waherddir
- Sicrhewch fod unrhyw offer sy'n cael ei ddefnyddio fel rhan o'r contract yn addas at y diben ac yn cael ei gynnal
- Rhaid cydymffurfio â pholisi digwyddiadau niweidiol y Brifysgol, os bydd digwyddiad neu ddigwyddiad y llwyddwyd i’w osgoi o drwch blewyn.
- Ewch ag unrhyw allweddi neu gardiau mynediad yn ôl i Ystadau pan fyddwch chi'n gadael y campws
- Gadewch eich gwaith mewn cyflwr glân a diogel
- Rhaid glynu wrth drefniadau parcio'r Brifysgol
Parcio i Gontractwyr
O 1 Mehefin 2023, mae system Adnabod Rhifau Awtomatig (ANPR) ar waith ar Gampysau Bae a Pharc Singleton.
Rhwng 8am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, mae parcio ar y campws ar gyfer deiliaid trwyddedau talu i barcio yn unig.
Yn ystod nosweithiau yn ystod yr wythnos (o 4pm tan 8am y bore wedyn) a thros y penwythnos (o 4pm ddydd Gwener, hyd at 8am ddydd Llun), gall ymwelwyr barcio ar y campws. Fodd bynnag, o 1 Mehefin bydd gofyn i ymwelwyr â'r campws dalu i barcio gan ddefnyddio'r ap neu fetrau talu. Bydd unrhyw un sy'n parcio heb drwydded ddilys neu heb dalu'r ffi gywir i dalu am hyd eu harhosiad, yn derbyn hysbysiad tâl parcio.
Dylai contractwyr sy'n gweithio ar brosiectau ar y campws drafod eu hopsiynau parcio ceir gyda'r unigolyn/adran Brifysgol (e.e. Swyddog Prosiect neu Wasanaeth Technegol) y maent yn gweithio iddo.
Os nad ydych yn siŵr â phwy i gysylltu neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am barcio ar y campws, cysylltwch â ni: estates-carparking@swansea.ac.uk