“After all that has happened, have you finally forgiven each other?”
Mae Bright Fear gan Mary Jean Chan yn dod â chlwyfau diangof i'r wyneb yn ddidrugaredd wrth iddi lywio ei ffordd drwy drawma cenedliadol hir-barhaol bod yn gwiar ac yn Asiaidd mewn teulu a chymdeithas ar ôl y pandemig sy'n gwrthod yn ddiysgog i dderbyn ei hunaniaeth ddilys. Drwy gydol y casgliad bythgofiadwy a phersonol o gerddi, mae Chan yn wynebu'r microymosodiadau a'r ymyleiddiad sy'n gwehyddu drwy ryngweithiadau annisgwyl bob dydd, gan gymell y darllenydd i ailstrwythuro cymdeithas i le cynhwysol lle gall pawb fod eu gwir hunain. Mae hiraeth wrth wraidd pob cerdd, sydd wedi'i hamgylchynu gan ddrysfa o atgofion plentyndod, gan ddarogan tynged sy'n nesáu lle na fydd y berthynas hon byth fel yr oedd hi o'r blaen.
Teimlais dristwch dwfn ar ôl i mi ddarllen ‘After Twenty-One Days in Hotel Quarantine’, lle mae Chan yn archwilio ei hofn hirsefydlog o farwolaeth sy'n ymddangos ym mhob agwedd o'u bywyd. Does dim amheuaeth y bydd ei phortread diaddurn yn effeithio ar unrhyw un sydd wedi cael ei ynysu mewn ffordd debyg yn sgîl gorbryder; mae'n cyfleu sut brofiad yw tyfu i fywyd sydd wedi'i lethu gan alar dros rywbeth nad yw wedi digwydd eto.
Drwy lywio eich ffordd drwy'r casgliad hwn, byddwch yn cael eich newid yn dragywydd. Mae taith iachaol wydn Chan yn rhoi dewrder i'r darllenydd wynebu adfyd ei fodolaeth ei hun.