Panel Beirniadu
Beirniaid Blaenorol
2024
Mae Namita Gokhale yn awdur ac yn gyfarwyddwr gŵyl. Mae hi wedi ysgrifennu 23 o lyfrau ffuglen a ffeithiol. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf a ganmolwyd yn fawr, Paro: Dreams of Passion, ym 1984. Mae ei ffuglen ddiweddar yn cynnwys The Blind Matriach a Jaipur Journals. Disgwylir i Never Never Land gael ei gyhoeddi yn 2024. Mae ei gwaith ffeithiol diweddar yn cynnwys Mystics and Sceptics - Searching Himalayan Masters. Mae gwaith Gokhale yn cynnwys sawl genre, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, astudiaethau Himalaiaidd, mytholeg, sawl antholeg, llyfrau i ddarllenwyr ifanc a drama yn ddiweddar. Mae hi wedi ennill amrywiaeth o wobrau a dyfarniadau, gan gynnwys Gwobr Sahitya Akademi uchel ei bri (yr Academi Lenyddiaeth Genedlaethol) am ei nofel Things to Leave Behind. Mae hi'n gyd-sefydlwr ac yn gyd-gyfarwyddwr (gyda William Dalrymple) Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur fyd-enwog. Namita Gokhale yw Cadeirydd Panel Beirniaid 2024. X: @NamitaGokhale_
Mae Jon Gower yn gyn-ohebydd y celfyddydau a'r cyfryngau BBC Cymru sydd wedi ysgrifennu mwy na 40 o lyfrau. Mae'r rhain yn cynnwys The Story of Wales, a oedd yn cyd-fynd â chyfres deledu arloesol, llyfr teithio o'r enw An Island Called Smith ac Y Storïwr, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn. Ei lyfr diweddaraf yw The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea. Ar hyn o bryd, mae Jon yn ysgrifennu nofel Gymraeg hanesyddol am y fforiwr pegynol Edgar Evans, casgliad o draethodau am fynyddoedd, yn ogystal â chyfrol am Raymond Chester, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd, i'w chyhoeddi yn 2024. Mae'n byw yng Nghaerdydd. X: @JonGower1
Mae Seán Hewitt yn awdur dau gasgliad o farddoniaeth, Tongues of Fire (2020) a Rapture's Road (2024), a'r cofiant All Down Darkness Wide (2022), oll wedi'u cyhoeddi gan Jonathan Cape. Mae ei waith wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer sawl gwobr, ac mae wedi ennill Gwobr Laurel a The Rooney Prize for Irish Literature. Yn Athro Cysylltiol yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, mae hefyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. X: seanehewitt
Mae Julia Wheeler yn awdur, yn newyddiadurwr ac yn gyfwelydd a fu'n gweithio i'r BBC am bymtheng mlynedd gan gynnwys fel Gohebydd y BBC yn y Gwlff yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ac yn ymdrin â Phenrhyn Arabia. Ysgrifennodd Julia 'Telling Tales: An Oral History of Dubai'. Mae'n cadeirio trafodaethau mewn gwyliau llenyddiaeth a gwyddoniaeth ar draws y DU ac yn rhyngwladol. A hithau'n gadeirydd y beirniaid ar gyfer Llyfr Teithio'r Flwyddyn Stanford 2024, mae Julia hefyd yn un o ymddiriedolwyr Gŵyl Lenyddol Stratford. Astudiodd Hanes Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, cyn ei hastudiaethau ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu yn City, Prifysgol Llundain. X: @JuliaWheeler1
Mae Tice Cin yn artist rhyngddisgyblaethol, yn olygydd ar ei liwt ei hun ac yn ymgynghorydd diwylliannol o ogledd Llundain a hi yw awdur Keeping the House. Mae hi’n actio ac yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol megis Coleg y Celfyddydau Caeredin, The Roundhouse a Chanolfan Barbican, ac wedi cael ei chomisiynu gan sefydliadau, gan gynnwys Cartier, Eglwys Gadeiriol Sant Paul a Montblanc. Cafodd ei henwi'n un o newyddiadurwyr cerddoriaeth gorau 2021 a 2022 gan Complex Magazine ac mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau megis DJ Mag a Mixmag.
Yn DJ ac yn gynhyrchydd cerddoriaeth, mae hi'n paratoi albwm i gyd-fynd â Keeping the House a fydd yn cynnwys llu o nodweddion dawnus. Enwyd Keeping the House yn un o lyfrau gorau 2021 gan The Guardian ac mae wedi cael sylw yn The Scotsman, New York Times a'r Washington Post. Mae Tice yn enillydd diweddar Gwobr Somerset Maugham Cymdeithas yr Awduron, a chafodd ei chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn (British Book Awards) a Gwobr Desmond Elliott. X: @ticecin
2023
Di Speirs yw Golygydd Llyfrau, BBC Audio. Hi gynhyrchodd y gyfres Book of the Week gyntaf erioed ar BBC Radio 4 ac mae wedi cyfarwyddo nifer helaeth o'r gyfres Book at Bedtime, dramodiadau a straeon byrion. Bellach, mae'n Olygydd tîm llyfrau Llundain ac mae'n gyfrifol am BBC Reading a BBC Audiobooks, Open Book a BookClub ar Radio 4 a World Book Club a World Book Cafe ar y World Service. Bu'n eiriolydd pŵer y stori fer ers amser hir ac mae wedi bod yn rhan annatod o Wobr Genedlaethol Stori Fer y BBC ers iddi ddechrau yn 2005. Hi yw'r beirniad sefydlog ar y panel ac mae hefyd yn gyfrifol am greu Gwobr Ysgrifenwyr Ifanc y BBC. Mae hi wedi golygu tri chasgliad straeon ar gyfer y BBC. Mae'n aelod Er Anrhydedd o'r RSL, mae'n feirniad llenyddol rheolaidd ac mae wedi cael ei henwebu ddwywaith ar gyfer menter y celfyddydau (llenyddiaeth) Mentor and Protégé Rolex. Mae'n aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth Dinas Llenyddiaeth Caeredin ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghori Institute for Social Futures Prifysgol Caerhirfryn.
Di Speirs yw Cadeirydd Panel Beirniaid 2023.
Prajwal Parajuly, sy'n fab i fam Nepalaidd a thad Nepalaidd-Indiaidd, yw awdur The Gurkha’s Daughter, casgliad o straeon, a’r nofel, Land Where I Flee. Cyrhaeddodd ei weithiau y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas a Gwobr Mogford yn y DU, gwobr Emile Guimet a'r Wobr am Nofel Gyntaf yn Ffrainc a chyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer y Wobr Stori yn UDA. Mae'n byw ym Mharis ac yn addysgu yn Sciences Po.
Cyrhaeddodd casgliad cyntaf Rachel Long, My Darling from the Lions (Picador 2020 / Tin House 2021), rhestrau byr Gwobr Forward ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau, Gwobrau Llyfrau Costa, Gwobr Folio Rathbones, Gwobr Jhalak, a Gwobr Ysgrifennwr Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times. Roedd argraffiad UDA o My Darling from the Lions yn destun adolygiad gan The New York Times a chafodd ei enwi'n un o'r 100 o lyfrau y mae'n rhaid eu darllen yn 2021 gan TIME.
Mae Jon Gower yn gyn-ohebydd y celfyddydau a'r cyfryngau BBC Cymru sydd wedi ysgrifennu mwy na 40 o lyfrau. Mae'r rhain yn cynnwys The Story of Wales, a oedd yn cyd-fynd â chyfres deledu arloesol, llyfr teithio o'r enw An Island Called Smith ac Y Storïwr, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn. Ei lyfr diweddaraf yw The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea. Ar hyn o bryd, mae Jon yn ysgrifennu nofel Gymraeg hanesyddol am y fforiwr pegynol Edgar Evans, casgliad o draethodau am fynyddoedd, yn ogystal â chyfrol am Raymond Chester, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd, i'w chyhoeddi yn 2024. Mae'n byw yng Nghaerdydd.
Mae Maggie Shipstead yn awdur tair nofel a chasgliad o straeon byrion sydd wedi ymddangos ar restr The New York Times o’r llyfrau mwyaf poblogaidd. Cyrhaeddodd ei nofel Great Circle y rhestr fer ar gyfer Gwobr Booker a'r Wobr am Ffuglen gan Fenywod. Graddiodd o Harvard a Gweithdy Ysgrifenwyr Iowa ac mae'n gyn-gymrawd Wallace Stegner yn Stanford. Derbyniodd gymrodoriaeth gan y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau ac enillodd Wobr Dylan Thomas a Gwobr L.A. Times am Ffuglen Gyntaf. Mae hi'n byw yn Los Angeles.
2022
Mae Namita Gokhale yn awdur ac yn gyfarwyddwr gwyliau. Mae hi wedi ysgrifennu ugain o ddarnau o waith ffuglen a ffeithiol. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf glodfawr, Paro: Dreams of Passion, ym 1984. Mae ei nofel ddiweddaraf The Blind Matriarch yn archwilio i’r teulu Indiaidd dan yr unto yn erbyn cefndir y pandemig. Gosodir Jaipur Journals, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, yng Ngŵyl Lenyddiaeth fywiog Jaipur, a sefydlwyd ac a gyfarwyddir gan Gokhale.
Mae ei gwaith yn rhychwantu genres amrywiol, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, astudiaethau Himalaiaidd, chwedloniaeth, sawl blodeugerdd, llyfrau i ddarllenwyr ifanc a drama ddiweddar. Mae Gokhale wedi derbyn gwobrau a dyfarniadau amrywiol, gan gynnwys Gwobr nodedig Sahitya Akademi (Academi Lenyddiaeth Genedlaethol) 2021 ar gyfer ei nofel Things to Leave Behind.
Namita yw cadeirydd panel beirniaid Gwobr Dylan Thomas eleni
Alan Bilton yw awdur tair nofel, The End of The Yellow House (Watermark 2020), The Known and Unknown Sea (Cillian, 2014), a The Sleepwalkers' Ball (Alcemi, 2009), a ddisgrifiwyd gan un beirniad fel 'Franz Kafka yn cwrdd â Mary Poppins'. Mae ef hefyd yn awdur casgliad o straeon byrion swrrealaidd, Anywhere Out of the World (Cillian, 2016) yn ogystal â llyfrau ar ffilmiau comedi mud, ffuglen gyfoes, a’r 1920au. Bu’n Ysgrifennwr ar Waith Gŵyl y Gelli yn 2016 a 2017 ac mae’n addysgu ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, a ffilm ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Irenosen Okojie yn awdur o dras Nigeriaidd a Phrydeinig y mae ei llyfrau’n creu naratifau bywiog sy’n chwarae â ffurf ac iaith. Mae ei nofel gyntaf, Butterfly Fish, a’i chasgliadau o straeon byrion, Speak Gigantular a Nudibranch, wedi ennill nifer o wobrau ac wedi ymddangos ar restr fer sawl gwobr hefyd. Mae cynhyrchydd ffilm wedi prynu’r hawl i ffilmio ei gwaith. A hithau’n gymrawd ac yn Is-gadeirydd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, enillodd Irenosen Wobr AKO Caine 2020 am ei stori Grace Jones. Cafodd ei gwneud yn MBE am Wasanaethau i Lenyddiaeth yn 2021.
Mae Luke Kennard yn fardd ac yn nofelydd y gwnaeth ei chweched casgliad o farddoniaeth, Notes on the Sonnets, ennill Gwobr Forward ar gyfer y Casgliad Gorau yn 2021. Cyrhaeddodd ei bumed, Cain, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas yn 2017. Mae ei nofelau, The Transition a The Answer To Everything, ar gael gan 4th Estate. Mae’n darlithio ym Mhrifysgol Birmingham.
Mae Rachel Trezise yn nofelydd ac yn ddramodydd o Gwm Rhondda. Enillodd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl le ar yr Orange Futures List yn 2002. Yn 2006, enillodd ei chasgliad ffuglen fer cyntaf Fresh Apples Wobr Dylan Thomas. Enillodd ei hail gasgliad ffuglen fer Cosmic Latte ddyfarniad y darllenwyr yng Ngwobr Edge Hill yn 2014. Teithiodd ei drama ddiweddaraf 'Cotton Fingers' o gwmpas Iwerddon a Chymru ac enillodd Wobr Summerhall Lustrum yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2019. Rhyddhawyd ei nofel ddiweddaraf Easy Meat yn 2021.
2021
Awdur arobryn, cyhoeddwr a chyfarwyddwr gwyliau llenyddol yw Namita Gokhale. Mae hi’n awdur ugain o lyfrau, gan gynnwys deg o lyfrau ffuglen. Gokhale yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddol Jaipur a lleolir ei nofel ddiweddaraf, Jaipur Journals, yng nghanol bwrlwm a miri'r ŵyl hon. Bydd HopeRoad Publishing yn cyhoeddi Jaipur Journals yn y DU yng ngwanwyn 2021.
Gokhale yw cyfarwyddwr Yatra Books, gwasg sy’n arbenigo mewn cyfieithiadau. Rhoddodd sefydliad Assam Sahitya Sabha Wobr Genedlaethol Ganmlwyddiannol dros Lenyddiaeth i Gokhale yn Guwahati yn 2017. Enillodd ei nofel Things to Leave Behind Wobr Llenyddiaeth Sushila Devi ym mis Ionawr 2019 yn ogystal â Gwobr Lyfrau Dyffryn Geiriau ar gyfer y ffuglen orau yn Saesneg. Dilynwch hi ar drydar @NamitaGokhale.
Namita yw cadeirydd y Panel Dyfarnu.
Syima Aslam yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddol Bradford (BLF), a sefydlodd yn 2014. Ymhen cwta bum mlynedd mae’r ŵyl wedi tyfu’n ddathliad llenyddol a diwylliannol dros gyfnod o 10 niwrnod, gan groesawu 70,000 o ymwelwyr i Bradford bob blwyddyn.
A hithau’n gyfarwyddwr, mae BLF wedi cael cryn dipyn o effaith ar dirwedd lenyddol y wlad ac mae wedi ennill clod am fod yn ‘un o wyliau mwyaf arloesol ac ysbrydoledig y DU’, gan ddwyn ynghyd lenyddiaeth o bob genre, hyrwyddo gallu diwylliannau i ddysgu’r naill gan y llall, cynnig llwyfan ar gyfer lleisiau ar y cyrion ac adlewyrchu’r newidiadau yn y Brydain gyfoes sydd ohoni drwy gynnig rhaglen sy’n dathlu amrywiaeth, empathi a rhagoriaeth artistig.
Llyfr cyntaf Stephen Sexton, If All the World and Love Were Young, oedd enillydd Gwobr Forward ym maes Casgliad Cyntaf Gorau yn 2019 a Gwobr Shine / Strong ym maes Casgliad Cyntaf Gorau. Enillodd Wobr E.M. Forster Academi Celfyddydau a Llenyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2020. Ef oedd enillydd Cystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol y DU yn 2016 ac roedd ymhlith enillwyr Gwobrau Eric Gregory yn 2018. Mae’n addysgu yng Nghanolfan Farddoniaeth Seamus Heaney ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast.
Joshua Ferris yw awdur llwyddiannus tair nofel a chasgliad o straeon byrion, The Dinner Party. Cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Llyfrau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, enillodd Wobr Discover Barnes and Noble a Gwobr PEN/Hemingway. Cafodd ei roi ar restr fer Gwobr Man Booker, enillodd Wobr Ryngwladol Dylan Thomas a chafodd ei enwi’n un o’r awduron “20 o dan 40” y New Yorker yn 2010. Mae’n byw yn Efrog Newydd.
Nofelydd ac academydd yw Francesca Rhydderch. Yn 2014, cafodd ei nofel gyntaf The Rice Paper Diaries ei rhoi ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Orau Clwb yr Awduron ac enillodd Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei straeon byrion mewn cyfrolau a chylchgronau a’u darlledu ar Radio 4 a Radio Wales. Hi oedd deiliad bwrsariaeth BBC/Tŷ Newydd yn 2010, ac yn 2014 cafodd ei rhoi ar restr fer Gwobr Straeon Byrion Genedlaethol y BBC. Wedi hynny, ar y cyd â Penny Thomas, hi oedd cyd-olygydd New Welsh Short Stories, cyfrol ffuglen ddiweddaraf Llyfrau Seren, ac ers 2015 hi yw Athro Cyswllt Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe.
2020
Cafodd Lucy Caldwell, a aned ym Melffast, ei rhoi ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn ei blwyddyn gyntaf yn 2006, a hynny am ei nofel gyntaf, Where They Were Missed. Enillodd y wobr yn 2011 am ei hail nofel, The Meeting Point. Ers hynny, mae wedi ysgrifennu trydedd nofel, sawl drama lwyfan a drama radio ac, yn fwyaf diweddar, dau gasgliad o straeon byrion, Multitudes (2016) ac Intimacies, sydd i'w gyhoeddi gan Faber ym mis Mehefin, yn ogystal â golygu blodeugerdd sydd wedi denu canmoliaeth sylweddol, Being Various: New Irish Short Stories (2019). Yn ddiweddar, cafodd ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Mae hi'n trydar o @beingvarious.
[credyd llun - Tom Routh]
Cyfarwyddwr gŵyl, cyhoeddwr ac awdur sydd wedi ennill gwobrau yw Namita Gokhale. Mae'n awdur deunaw llyfr, gan gynnwys deg gwaith ffuglennol. Bydd ei nofel ddiweddaraf, Jaipur Journals, yn cael ei rhyddhau ym mis Ionawr 2020. Namita yw sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur a Mountain Echoes, Gŵyl Lenyddiaeth Bhutan. Mae hi hefyd yn un o gyfarwyddwyr sefydlu tŷ cyhoeddi Yatra Books, sy'n arbenigo mewn cyfieithu. @NamitaGokhale_
Bardd, cyfieithydd ac ysgolhaig yw'r Athro Kurt Heinzelman. Ei lyfr diweddaraf o gerddi yw Whatever You May Say, ac mae wedi cyfieithu Demarcations, casgliad o gerddi gan Jean Follain. Bu'n Guradur Gweithredol yng Nghanolfan Harry Ransom ac yn Gyfarwyddwr Addysg yn Amgueddfa Gelf Blanton. Mae'n Athro mewn Saesneg ym Mhrifysgol Texas-Austin lle mae'n arbenigo mewn Barddoniaeth a Barddoneg, ac yn athro yng Nghanolfan Awduron Michener. Mae hefyd yn gyn Olygydd Gyfarwyddwr Texas Studies in Literature and Language (TSLL), ac yn gyd-sylfaenydd ac yn Olygydd Cynghori Bat City Review ers blynyddoedd maith.
Magwyd Max Liu yng Nghernyw mewn cymuned o artistiaid ac awduron. Mae wedi ysgrifennu am y celfyddydau, diwylliant a'r gymdeithas ar gyfer yr i, y Financial Times a'r Guardian. Mae'n adolygu llyfrau ac yn cyfweld ag awduron ar gyfer papurau newydd, a bu'n westai ar raglen Open Book Radio 4. Yn 2019, cyfwelodd, ymhlith eraill, ag Elif Shafak, Isabel Allende a Jhumpa Lahiri, ac ysgrifennodd mewn mannau eraill am bynciau gan gynnwys ymatebion dynion i fudiad #MeToo a natur ryweddol gwaith tŷ. Aeth ei draethawd am golli ffrindiau yn ei dridegau yn feirysol gan sbarduno trafodaethau am natur cyfeillgarwch dynion. Mae'n byw yn Llundain lle mae'n cadeirio digwyddiadau llenyddol yn rheolaidd. @maxjliu
Awdur a darlledwr sy'n cyflwyno The Verb ar BBC Radio 3 bob nos Wener yw Ian McMillan. Mae wedi ysgrifennu cerddi, dramâu, hunangofiant ar ffurf cerddi, sef Talking Myself Home, a gwibdaith o amgylch Swydd Efrog yn Neither Nowt Nor Summat. Mae'n gwylio clybiau criced Darfield a Swydd Efrog. Yr unig dro iddo chwarae criced, yn Low Valley Juniors ym 1963, dywedodd Mrs Hudson wrtho am dynnu ei falaclafa neu y byddai'n gwneud iddo wisgo Rainmate ei fam. Casgliad diweddaraf Ian yw To Fold The Evening Star – New and Selected Poems (Carcanet). Dyfarnwyd Rhyddfraint Barnsley i Ian yn ddiweddar.
Mae Ian yn fardd preswyl i'r Academy of Urbanism, Barnsley FC ac mae bellach yn Fardd Llawryfog Barnsley. Yn ogystal â chyflwyno The Verb bob wythnos, mae'n ymddangos yn rheolaidd ar BBC Breakfast, Coast, Countryfile, Pointless Celebrities, Pick of the Week, Last Word a BBC Proms Plus. Mae wedi bod yn westai ar raglen Desert Island Discs. Yn y gorffennol, bu'n fardd preswyl i Opera Cenedlaethol Lloegr, Masnach a Buddsoddi y DU, yn Fardd Ymchwilio i Yorkshire TV ac yn Fardd y Rhawd i Heddlu Glannau Humber. Mae hefyd yn adrodd straeon The Yorkshire Dales a The Lakes (More4).
Ar hyn o bryd mae'n ysgrifennu libreto, The Tin Soldier, gyda Jonathan Dove ar gyfer Corws Gŵyl Leeds, yna bydd yn ysgrifennu sioe newydd ar gyfer hanner canmlwyddiant Theatr Mikron o deithio yn 2021 a libreto ar gyfer Barbwr Seville Swydd Efrog gyda Stiwdios Freedom. Mae cathod yn gwneud iddo disian. @IMcMillan www.ian-mcmillan.co.uk
Awdur, bardd, beirniad a dramodydd Prydeinig-Ghanaidd o dde-ddwyrain Llundain yw Bridget Minamore. Fel newyddiadurwr, mae'n cyfrannu at y Guardian. Fe’i dewiswyd yn un o 40 Seren Llenyddiaeth Ddu Prydain sefydliad Speaking Volumes, mae wedi darllen ei gwaith yn rhyngwladol, a hi yw cyd-diwtor arweiniol y Roundhouse Poetry Collective. Cafodd Titanic (Out-Spoken Press), pamffled cyntaf Bridget o gerddi, sy’n ymdrin â cholled a chariad modern, ei gyhoeddi ym mis Mai 2016. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar ei nofel gyntaf, y cyhoeddwyd dyfyniad ohoni mewn blodeugerdd, New Daughters of Africa (Myriad) yn 2019.
Mae'r Athro Dai Smith CBE yn hanesydd ac yn awdur o fri ar gelfyddyd a diwylliant Cymru. Fel Darlledwr, mae wedi ennill gwobrau niferus am raglenni dogfen celfyddydol a hanesyddol, a rhwng 1992 a 2000 bu'n Bennaeth Rhaglenni BBC Wales. Roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2005, ac ar hyn o bryd ef yw Athro Ymchwil Emeritws Raymond Williams yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 2006 a 2016. Yn 2013, cyhoeddodd nofel, Dream On, ac yn 2014 golygodd flodeugerddi diffiniol o straeon byrion o Gymru, Story I & II, ar gyfer cyfres Llyfrgell Cymru. Yn 2020, cyhoeddodd nofel, The Crossing, fel rhan olaf ei drioleg ffuglennol o waith. Yr Athro Smith yw Cadeirydd y Panel Beirniadu.
2019
Mae’r Athro Kurt Heinzelman yn fardd, yn gyfieithydd ac yn ysgolhaig. Ei lyfr diweddaraf yw Whatever You May Say ac mae wedi cyfieithu Demarcations, casgliad o gerddi gan Jean Follain. Bu'n Guradur Gweithredol Canolfan Harry Ransom ac yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Gelf Blanton. Yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Texas-Austin yn arbenigo mewn Barddoniaeth a Barddoneg ac athro yn Michener Center for Writers, ef hefyd yw cyn Brif Olygydd Texas Studies in Literature and Language (TSLL), a chyd-sylfaenydd a Golygydd Cynghorol Bat City Review ers tro.
Mae’r Athro Dai Smith CBE yn hanesydd ac yn awdur o fri ym maes celf a llenyddiaeth Cymru. Fel Darlledwr mae wedi ennill nifer o wobrau am raglenni dogfen celfyddydol a hanesyddol a rhwng 1992 a 2000 ef oedd Pennaeth Rhaglenni BBC Wales. Bu'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2005 ac, ar hyn o bryd ef yw Cadair Ymchwil Emeritws Raymond Williams yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o 2006 i 2016, ac ef yw Golygydd Cyfres Llyfrgell Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y clasuron. Yn 2013, cyhoeddwyd ei nofel, Dream On, ac yn 2014, golygydd ddetholiadau o straeon byrion gorau o Gymru, Story I & II ar gyfer Llyfrgell Cymru. Cyhoeddwyd ei waith ffuglen diweddaraf, y nofel What I Know I Cannot Say, a’r straeon byrion cysylltiedig All That Lies Beneath, gan Parthian Books yn 2017. Yr Athro Smith yw Cadeirydd y Panel Beirniadu.
Di Speirs yw Golygydd Llyfrau ar gyfer Radio BBC, gan oruchwylio holl Ddarlleniadau Llundain, ‘Open Book’ a ‘Bookclub’ ar BBC Radio 4 a ‘World Book Club’ ar Wasanaeth BBC y Byd. Mae hi wedi cynhyrchu nifer fawr o raglenni ‘Book at Bedtime’ dros ddau ddegawd ac fe gynhyrchodd y ‘Book of the Week’ cyntaf erioed yn 1998. Yn allweddol yng Ngwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC o’r cychwyn, ac yn feirniad reolaidd, cadeiriodd Wobr Orange i Awduron Newydd yn 2010, wedi beirniadu’r Wobr Wellcome yn 2017 ac wedi bod yn enwebydd ar gyfer Mentor Rolex a Menter Celfyddydau Protégé (Llenyddiaeth). Mae hi’n aelod o banel Gwobr Rhagoriaeth Oes mewn Ffuglen Fer Small Wonder Charleston.
Ganwyd Kit de Waal ym Mirmingham i fam Wyddelig a Thad Caribïaidd. Gweithiodd am bymtheg mlynedd ym maes cyfraith droseddol a theuluol, i Wasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae’n aelod sylfaenol o Leather Lane Writers ac Oxford Narrative Group, ac wedi ennill nifer o wobrau am ei straeon byrion yn ogystal â’i llên micro. Enillodd wobr Nofel Wyddelig y Flwyddyn 2017 Kerry Group gyda’i nofel gyntaf My Name is Leon, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau eraill gan gynnwys y Wobr Llyfr Costa cyntaf a Gwobr Desmond Elliott. Cyhoeddwyd ei hail nofel, The Trick to Time yn 2018 a chyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer y Wobr Ffuglen i Ferched.
2018
Mae Namita Gokhale yn awdur, cyhoeddwr a chyfarwyddwr gwyliau Indiaidd. Mae hi’n awdur un ar bymtheg o lyfrau gan gynnwys naw o lyfrau ffuglen. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Paro: Dreams of Passion am y tro cyntaf yn 1984 gan barhau’n glasur cwlt hyd heddiw. Mae’r drioleg Himalayaidd yn cynnwys Things to Leave Behind, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n cael ei hystyried fel ei nofel fwyaf uchelgeisiol hyd yma. Mae hi wedi gweithio'n helaeth ar chwedlau Indiaidd a hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr ar gyfer darllenwyr ifanc.
Namita yw cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, a ystyrir yn yr ŵyl lenyddol am ddim fwyaf yn y byd, yn ogystal ag 'Mountain Echoes', yr Ŵyl Lenyddiaeth Fwtan blynyddol. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr Yatra Books, cwmni cyhoeddi sy'n arbenigo mewn cyfieithu.
Mae’r Athro Kurt Heinzelman yn fardd, yn gyfieithydd ac yn ysgolhaig.
Ei lyfr diweddaraf yw Whatever You May Say ac mae wedi cyfieithu Demarcations, casgliad o gerddi gan Jean Follain. Bu'n Guradur Gweithredol Canolfan Harry Ransom ac yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Gelf Blanton.
Yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol Texas-Austin yn arbenigo mewn Barddoniaeth a Barddoneg ac athro yn Michener Center for Writers, ef hefyd yw cyn Brif Olygydd Texas Studies in Literature and Language (TSLL), a chyd-sylfaenydd a Golygydd Cynghorol Bat City Review ers tro.
Dechreuodd Paul McVeigh ei yrfa ysgrifennu ym Melfast fel dramodydd cyn symud i Lundain i ysgrifennu comedi a gafodd ei berfformio yng Ngŵyl Caeredin ac yn theatrau’r West End Llundain. Mae ei straeon byrion wedi cael eu darllen ar BBC Radio 3, 4 a 5 a chafodd y stori 'Hollow' ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Stori Fer y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Iwerddon yn 2017.
Enillodd ei nofel gyntaf The Good Son gwobr Nofel Gyntaf The Polari a chafodd ei chynnwys ar restrau byrion nifer o wobrau eraill gan gynnwys gwobr Prix du Roman Cezam yn Ffrainc. Mae’n Gyfarwyddwr Cysylltiol Word Factory, sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer rhagoriaeth yn y stori fer ac ef yw sylfaenydd Gŵyl Straeon Byrion Llundain. Mae gwaith Paul wedi cael ei gyfieithu i 7 iaith.
Mae Rachel Trezise yn nofelydd ac yn ddramodydd o Gwm Rhondda yn Ne Cymru. Enillodd ei nofel gyntaf In and Out of the Goldfish Bowl le ar restr Orange Futures yn 2001 ac yn ddiweddar cafodd ei hychwanegu at gyfres Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Enillodd ei chasgliad ffuglen fer gyntaf First Apples y Wobr Dylan Thomas Ryngwladol Gyntaf yn 2006. Enillodd ei hail gasgliad ffuglen byr Cosmic Latte i Wobr Darllenwyr Edge Hill yn 2014. Ei dramâu llwyfan yw Tonypandemonium ac We’re Still Here a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2013 a 2017. Cyhoeddir nofel newydd, Wonderful, ym mis Mehefin 2018 ac mae casgliad newydd o straeon byrion a dwy ddrama ar y gweill.
Mae’r Athro Dai Smith CBE yn hanesydd ac yn awdur o fri ym maes celf a llenyddiaeth Cymru. Fel Darlledwr mae wedi ennill nifer o wobrau am raglenni dogfen celfyddydol a hanesyddol a rhwng 1992 a 2000 ef oedd Pennaeth Rhaglenni BBC Wales. Bu'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2005 ac, ar hyn o bryd ef yw Cadair Ymchwil Emeritws Raymond Williams yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
Bu’n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o 2006 i 2016, ac ef yw Golygydd Cyfres Llyfrgell Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y clasuron. Yn 2013, cyhoeddwyd ei nofel, Dream On, ac yn 2014, golygydd ddetholiadau o straeon byrion gorau o Gymru, Story I & II ar gyfer Llyfrgell Cymru. Cyhoeddwyd ei waith ffuglen diweddaraf, y nofel What I Know I Cannot Say, a’r straeon byrion cysylltiedig All That Lies Beneath, gan Parthian Books yn 2017.
Yr Athro Smith yw Cadeirydd y Panel Beirniadu.
2017
Mae’r Athro Kurt Heinzelman yn fardd, yn gyfieithydd ac yn ysgolhaig. Ei lyfr diweddaraf yw Intimacies & Other Devices ac mae wedi cyfieithu Demarcations, casgliad o gerddi gan Jean Follain. Bu'n Guradur Gweithredol Canolfan Harry Ransom ac yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Gelf Blanton.
Yn Athro Barddoniaeth a Barddoneg ym Mhrifysgol Texas-Austin, ef yw Prif Olygydd Texas Studies in Literature and Language (TSLL) a chyd-sylfaenydd a Golygydd Ymgynghorol Bat City Review.
Alison Hindell yw pennaeth Drama Sain DU, y BBC. Mae wedi cyfarwyddo dros 260 o dramâu radio, o gyd-gynyrchiadau rhyngwladol i operau sebon, ac mae wedi ennill gwobrau lu. Mae hi'n rhedeg un o'r adrannau cynhyrchu dramâu radio mwyaf yn y byd ac mae'n gyfrifol am dros 400 awr o ddrama, yn amrywio o'r gyfres eiconig The Archers (gan gynnwys llywio stori Helen a Rob ddaeth i'w benllanw eleni) i greu cyfresi ysgrifennu newydd a chlasuron arobryn ar gyfer llawer o rwydweithiau radio'r BBC. Yn fwyaf diweddar, mae wedi gweithio gyda’r cyfarwyddwr theatr o fri rhyngwladol, Robert Wilson, ar gyd-gynhyrchiad amlieithog gyda darlledwyr Almaeneg o'r enw Tower of Babel. Gweithiodd Alison i’r Royal Shakespeare Company cyn ymuno â'r BBC. Ar hyn o bryd mae'n Athro Gwadd ym maes Drama Radio i Brifysgol Derby ac yn Gymrawd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ganed yr Athro Sarah Moss yng Nglasgow, a chafodd ei magu ym Manceinion cyn astudio yn Rhydychen. Dechreuodd ei gyrfa academaidd gyda’i thraethawd ymchwil ar Wordsworth, Coleridge ac ysgrifennu teithio, ac ysgrifennodd monograff ar fwyd a rhywiau yn llenyddiaeth y ddeunawfed ganrif cyn troi at ffuglen. Mae ei nofelau yn cynnwys: Cold Earth (Granta, 2009), Night Waking(Granta, 2011), Bodies of Light (Granta, 2014), Signs for Lost Children (Granta, 2015) a The Tidal Zone (Granta, 2016). Mae hefyd wedi ysgrifennu cofiant yn seiliedig ar y flwyddyn treuliodd yng Ngwlad yr Iâ, Names for the Sea (Granta, 2012). Mae Sarah wedi dysgu ym Mhrifysgolion Rhydychen, Caint, Caerwysg a Gwlad yr Iâ, ac mae wedi bod yn rhan o Raglen Ysgrifennu Prifysgol Warwick ers 2012.
Mae Prajwal Parajulyyn fab i dad Indiaidd ac i fam Nepalaidd. Cyrhaeddodd The Gurkha's Daughter, ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn 2013. Enillodd ei nofel Land Where I Flee, gwobr Llyfr y Flwyddyn yr Independent on Sunday a gwobr Kansas City Star am y llyfr gorau yn 2015. Mae Prajwal yn awdur preswyl ym Mhrifysgol Truman State, Missouri. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer The New York Times, TheGuardian, the New Statesman a’r BBC.
Mae’r Athro Dai Smith CBEyn hanesydd ac yn awdur o fri ym maes celf a llenyddiaeth Cymru. Fel Darlledwr mae wedi ennill nifer o wobrau am raglenni dogfen celfyddydol a hanesyddol a rhwng 1992 a 2000 ef oedd Pennaeth Rhaglenni BBC Wales. Bu'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2005 ac, ar hyn o bryd ef yw Cadair Ymchwil Emeritws Raymond Williams yn Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
Bu’n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o 2006 i 2016, ac ef yw Golygydd Cyfres Llyfrgell Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y clasuron. Yn 2013, cyhoeddwyd ei nofel, Dream On, ac yn 2014, golygydd ddetholiadau o straeon byrion gorau o Gymru, Story I & II ar gyfer Llyfrgell Cymru. Cyhoeddwyd ei waith ffuglen diweddaraf, y nofel What I Know I Cannot Say, a’r straeon byrion cysylltiedig All That Lies Beneath, gan Parthian Books yn 2016.
Yr Athro Smith yw Cadeirydd y Panel Beirniadu.
2016
Sarah Hall yw awdur pum nofel - Haweswater, The Electric Michelangelo, The Carhullan Army, How To Paint A Dead Man a The Wolf Border – yn ogystal â'r casgliad o straeon byrion, The Beautiful Indifference, ac enillodd Wobr Portico ar gyfer Ffuglen a Gwobr Edge Hill ar gyfer stori fer. Mae ei nofelau wedi cyrraedd rhestrau byr nifer o wobrau o fri, gan gynnwys Gwobr Man Booker, Prix Femina Etranger a Gwobr Arthur C. Clark ar gyfer ffuglen wyddonol. Cafodd The Carhullan Army ei gynnwys ar restr The Times o 100 llyfr gorau'r degawd.
A hithau'n gymrawd anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth ac yn gymrawd Sefydliad Civtella Ranieri, mae Sarah yn diwtor ar gyfer y Faber Academy, The Guardian a Sefydliad Arfon.
Mae Kurt Heinzelman yn fardd, yn gyfieithydd ac yn ysgolhaig. Ei lyfr diweddaraf yw Intimacies & Other Devices ac mae wedi cyfieithu Demarcations, casgliad o gerddi gan Jean Follain.
Bu'n Guradur Gweithredol Canolfan Harry Ransom ac yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Gelf Blanton. Yn Athro Barddoniaeth a Barddoneg ym Mhrifysgol Texas-Austin, ef yw Prif Olygydd Texas Studies in Literature and Language (TSLL) a chyd-sylfaenydd a Golygydd Ymgynghorol Bat City Review.
Mae Phyllida Lloyd CBE yn gyfarwyddwr Prydeinig i'r llwyfan a'r sgrin. Ymhlith ei gwaith arobryn i'r sgrin y mae Mamma Mia! a The Iron Lady.
Mae ei gwaith theatraidd yn cynnwys: Josephine and I(Bush/Public Theater Efrog Newydd); Henry IV, Julius Caesar (Donmar Warehouse/St Ann’s Warehouse, Efrog Newydd); The Rime of The Ancient Mariner gyda Fiona Shaw, Mary Stuart (Donmar Warehouse, Apollo, a Broadway - Enwebiad Tony); Mamma Mia! (Llundain, Broadway, Byd-eang); The Prime of Miss Jean Brodie, The Duchess of Malfi, The Way of The World, Pericles (Y Theatr Genedlaethol Frenhinol). Mae ei gwaith opera'n cynnwys: La Bohème, Medea, Carmen, Gloriana, Peter Grimes (Opera North); Macbeth (Paris/Y Tŷ Opera Brenhinol); The Handmaid's Tale, The Carmelites, Verdi Requiem, Rheingold, Valkyrie, Siegfried, Twilight of The Gods(ENO). Phyllida oedd Athro Drama Cameron Mackintosh 2006 yng Ngholeg St Catherine, Rhydychen.
Mae Kamila Shamsie wedi ysgrifennu chwe nofel sydd wedi'u cyfieithu i fwy na 25 o ieithoedd, gan gynnwys A God in Every Stone (rhestr fer Gwobr Bailey am Ffuglen gan Fenywod) a Burnt Shadows (rhestr fer Gwobr Ffuglen Orange). Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth ac yn un o 'Nofelwyr Gorau Prydain’ yn ôl Granta. Cafodd ei magu yn Karachi a bellach mae'n byw yn Llundain.
Mae Owen Sheers yn nofelydd, yn fardd ac yn ddramodydd, ac ef yw Athro Creadigrwydd Prifysgol Abertawe. Mae'n awdur dau gasgliad o farddoniaeth, The Blue Book a Skirrid Hill a'r ddrama fydr arobryn, Pink Mist. Mae ei waith ffeithiol yn cynnwys The Dust Diaries a Calon: A Journey to the Heart of Welsh Rugby. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru ddwywaith ac mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu, gan gynnwys The Passion, Mametz a The Two Worlds of Charlie F. Dyfarnwyd Gwobr Rhyddid i Lefaru Amnest Rhyngwladol iddo. Bu'n Gymrawd Cullman Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, Artist Preswyl Undeb Rygbi Cymru ac mae'n gymrawd oes anrhydeddus y Sefydliad Materion Cymreig. Mae ei nofel ddiweddaraf, I Saw a Man (Faber, 2015), wedi cael ei chyhoeddi ar draws Ewrop a Gogledd America ac roedd ar restr fer y Prix Femina Etranger.
Mae Dai Smith yn hanesydd ac yn awdur o fri ym maes celf a llenyddiaeth Cymru.
Bu'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Morgannwg rhwng 2001 a 2005 ac, ar hyn o bryd, ef yw Athro Raymond Williams Hanes Diwylliannol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.
Bu’n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o 2006 i 2016 ac ef yw Golygydd cyfres Llyfrgell Cymru (prosiect Llywodraeth Cymru) o lenyddiaeth glasurol. Yn 2013, cyhoeddwyd ei nofel, Dream On,ac yn 2014, golygydd ddetholiadau o Straeon Byrion gorau o Gymru, Stori I & II ar gyfer Llyfrgell Cymru.
Yr Athro Smith yw Cadeirydd y Panel Beirniadu.
2014
Peter Florence - Sylfaenydd Gŵyl y Gelli a Chadeirydd y panel beirniadu.
Allison Pearson - Nofelydd a cholofnydd y Daily Telegraph.
Cerys Matthews - Awdur, canwr a chyflwynydd radio BBC6 music.
Carolyn Hitt - Newyddiadurwr ac awdur.
Nick Wroe - Newyddiadurwr Guardian Review.
Kurt Heinzelman - Bardd, cyfieithydd ac Athro Saesneg, Prifysgol Texas yn Austin.
Tishani Doshi - Bardd, newyddiadurwr a dawnsiwr o India.
Peter Stead - Sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.