MANTEISION ASTUDIO BLWYDDYN RYNGOSOD
Mae nifer o'n myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o'u cwrs gradd, sy'n gallu bod o fudd enfawr i'r cwmnïau sy'n cymryd rhan ac i'r myfyrwyr sy'n gweithio yn y cwmni.
Gall Blwyddyn mewn Diwydiant fod yn rhan o raglen gradd Baglor neu Feistr.
Gall lleoliad Blwyddyn mewn Diwydiant roi hwb gwych i'ch gradd a'ch gyrfa yn y dyfodol. Drwy'r cynllun Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cyflawni'r canlynol:
- Cynyddu eich hyder mewn amgylchedd gwaith.
- Gwella eich rhagolygon gyrfa ar ôl graddio drwy'ch galluogi i gynnig enghreifftiau o brofiad gwaith perthnasol sydd gennych.
- Ennill cyflog gyda blwyddyn allan o'r brifysgol*
- Cael y cyfle i wella sgiliau technegol ac annhechnegol drwy gael hyfforddiant i ddatblygu yn eich rôl.
- Gwella eich gallu i gynllunio drwy gymryd cyfrifoldeb am reoli eich llwyth gwaith yn effeithiol.
- Gwella ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blaenoriaethau a therfynau amser yn y byd go iawn.
- Rhoi eich sgiliau adrodd a chyflwyno ar waith yn yr amgylchedd gwaith a hefyd drwy fyfyrio yn eich aseiniadau yn y brifysgol.
- Gwella eich lefel gallu i gael statws proffesiynol.
- Datblygu'ch rhwydwaith o gysylltiadau yn y diwydiant.
- Gwella eich ymwybyddiaeth o feini prawf busnesau'n gyffredinol y gellir eu trosglwyddo i unrhyw amgylchedd gwaith.
Mae dadansoddiad ystadegol hefyd yn cynnig tystiolaeth bod cymryd rhan mewn cynllun lleoliad gwaith yn gwella'r tebygolrwydd o gael dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch yn eich gradd.
Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn llwyddiannus, bydd gennych y potensial i ennill credyd i leihau'r amser y mae'n ei gymryd i ennill Statws Peiriannydd Proffesiynol neu Siartredig o hyd at flwyddyn.
Yn ystod y flwyddyn ar leoliad gwaith, byddwch yn gallu asesu'r amgylchedd gwaith penodol, gan gynnwys y math o waith, y cwmni, y diwylliant a chyfleoedd yn y dyfodol.