student scientist looking at field equipment

Beth yw Blwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol?

Mae'r Flwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol yn gyfle amhrisiadwy i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd ymchwil am gyfnod sy'n amrywio o 9 i 12 mis, gydag isafswm o 40 wythnos.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae myfyrwyr yn ymgolli yng ngweithgareddau beunyddiol grŵp ymchwil, gan gymryd rhan mewn sawl prosiect a meithrin sgiliau uwch mewn methodolegau ymchwil, dadansoddi data a'r defnydd o dechnolegau perthnasol.

Mae'r profiad hwn hefyd yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau technegol, syntheseiddio llenyddiaeth a chyfleu gwybodaeth dechnegol yn effeithiol. Mae cyfleoedd i rwydweithio a meithrin proffil proffesiynol yn rhannau annatod o'r lleoliad gwaith.

Disgwylir i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth feirniadol o dechnegau casglu a dadansoddi data, moeseg ymchwil a gofynion iechyd a diogelwch.

Ar ddiwedd y lleoliad gwaith, bydd myfyrwyr yn llunio portffolio manwl ac yn cyflwyno poster, sy'n cael eu hasesu ar ôl i'r myfyriwr ddychwelyd.

PAM ASTUDIO BLWYDDYN MEWN YMCHWIL GYMHWYSOL?

Mae gan ddull y Flwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol o ddysgu yn y gweithle lawer o fanteision i fyfyrwyr:

  • Gweithio'n annibynnol ac mewn grŵp ymchwil mwy i greu syniadau ymchwil a chynnal ymchwil a gwaith dadansoddi
  • Defnyddio caffael llenyddiaeth sy'n eich galluogi i ddeall arloesiadau a datblygiadau diweddar yn y maes perthnasol
  • Arddangos a datblygu pynciau ymchwil mewn maes ymchwil penodol
  • Trin setiau data cymhleth ac ymgymryd â gwaith dadansoddi a chyflwyno data
  • Cynnal arbrofion ac efallai eu dylunio
  • Cyfrannu at adroddiadau gwyddonol penodol mewn fformatau priodol, a'u llunio
  • Bydd meithrin sgiliau technegol mewn amgylchedd ymchwil yn gwella cyflogadwyedd yn y dyfodol

Mae'r rhaglen hon yn helpu i fagu hyder myfyrwyr a chadarnhau eu hawydd i ddilyn gyrfa mewn ymchwil wyddonol. Fel arall, bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau gwerthfawr ond yn penderfynu nad yw ymchwil yn addas iddyn nhw!