Charlotte Ajomale-Evans – Cadeirydd
Mae fy swydd amser llawn yn y Coleg Peirianneg yn y tîm Recriwtio Myfyrwyr, ond ces i fy ethol yn Gadeirydd y Rhwydwaith BAME ym mis Awst 2020. Astudiais i am fy ngradd israddedig yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn Abertawe. Ers graddio, dwi wedi gweithio i Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Preswyl, y Coleg Rhyngwladol a'r Coleg Peirianneg, yn ogystal â fel asiant teithio ac yn y sector cyllid. Dwi wedi bod yn angerddol ers amser maith am ddileu hiliaeth ac edrychaf ymlaen at ddefnyddio fy rôl er lles ein cymuned.
Natalie Wint
Ymchwilydd yn y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau ydw i. Mae fy ymchwil dechnegol yn canolbwyntio ar gyrydu, ond mae gen i ddiddordeb hefyd mewn helpu myfyrwyr i ddeall eu cyfrifoldeb cymdeithasol fel peirianwyr, i gwestiynu'r hyn sy'n cael ei ystyried yn wybodaeth beirianyddol, gwerth gwybodaeth leol a'r angen i ddarparu atebion technegol yng nghyd-destun materion cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol. Rwy'n angerddol am hyrwyddo cwricwla cynhwysol ym maes peirianneg ac ymgorffori'r gwyddorau cymdeithasol mewn addysg peirianneg.
Rwy'n addysgu mathemateg i fyfyrwyr sy'n gwneud Blwyddyn Sylfaen ac i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n astudio'r modiwl dylunio, 'Peirianneg ar gyfer Pobl'. Dyma fodiwl newydd sy'n cael ei gynnal drwy gydweithrediad â Pheirianwyr Heb Ffiniau ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at ei addysgu.
Yr Athro David Penney
Rwy'n Athro yn y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol ym maes caenau diwydiannol gweithredol sy'n cael ei hariannu gan yr EPSRC. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar galfanu parhaus a thechnoleg dur. Gall ymchwil fod yn unig ac yn rhwystredig, felly yn fy rôl fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, rwy'n ceisio creu amgylchedd lle mae gan ymchwilwyr doethurol yr hyder a'r rhyddid i ffynnu yn y meysydd maent yn dewis gweithio ynddynt.