Bydd Pwyllgor EDI y Gyfadran yn defnyddio dulliau tryloyw ac atebol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i nodi a blaenoriaethu camau gweithredu ac ymyriadau o ran EDI sy'n berthnasol i'r Gyfadran. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r Brifysgol a'r ysgolion ynghylch siartrau ac ymrwymiadau allanol. Bydd y Pwyllgor yn gwerthuso cynnydd camau gweithredu o ran EDI ar lefel y Gyfadran er mwyn llywio datblygiad parhaus a helpu i hyrwyddo strategaeth EDI ehangach y Brifysgol. Bydd y Pwyllgor yn argymell arferion a phrosesau cynhwysol yn y Gyfadran ac yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo amgylchedd gweithio cefnogol a chynhwysol i'r holl staff a myfyrwyr.
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb y Gyfadran yn adrodd i Dîm Arweinyddiaeth y Gyfadran, Tîm Hunanasesu'r Brifysgol/Fforwm EDI y Brifysgol a Phwyllgor Cydraddoldeb y Brifysgol. Caiff cofnodion pob cyfarfod eu dosbarthu i Dîm Arweinyddiaeth y Gyfadran; Pwyllgor Addysg y Gyfadran; y Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Effaith; Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Effaith y Gyfadran; pwyllgorau EDI ysgolion; Tîm Hunanasesu'r Brifysgol/Fforwm EDI y Brifysgol; a Phwyllgor Cydraddoldeb y Brifysgol.
Bydd y Pwyllgor yn cwrdd o leiaf unwaith bob tymor. Gall Cadeirydd y Pwyllgor alw cyfarfodydd arbennig. Bydd y Pwyllgor yn defnyddio cyfleusterau e-bost neu ffôn/fideo-gynadledda fel y bo'n briodol i ymgymryd â'i fusnes yn effeithiol.
Dylai aelodaeth y Pwyllgor gynnwys y canlynol lle mae'r rolau'n bodoli yn y Gyfadran:
- Arweinydd EDI y Gyfadran (Cadeirydd)
- Dirprwy Ddeon Gweithredol, Dirprwy Is-ganghellor a/neu Gyfarwyddwr Gweithrediadau'r Gyfadran
- Cynrychiolydd Tîm Cydraddoldeb Adnoddau Dynol
- Partner Busnes Adnoddau Dynol
- Arweinwyr EDI ysgolion
- Cynrychiolydd y Gwasanaethau Proffesiynol
- Cynrychiolydd myfyrwyr fel y bo'n berthnasol
- Aelodau cyfetholedig eraill (yn y Gyfadran a'r tu allan iddi) yn ôl yr angen er mwyn cwblhau camau gweithredu/prosiectau
Dylid rhoi 'sylw priodol’ i ddarpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010.
Mae aelodaeth Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran yn seiliedig ar rolau ex-officio yn y cyfadrannau ac fe'i hadolygir bob blwyddyn.
Gall y Cadeirydd, yn ôl ei ddoethineb, wahodd aelodau staff eraill yn y Brifysgol ac ymwelwyr allanol, fel y bo'n briodol, i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd.
Bydd un traean o aelodaeth y Pwyllgor yn gworwm.
Dyletswyddau'r Pwyllgor fydd:
- Helpu i ddarparu a gweithredu strategaeth EDI y Brifysgol ar y cyd â'r cyfadrannau.
- Sicrhau arferion a phrosesau cynhwysol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i flaenoriaethu'r strategaeth EDI ar lefel y Gyfadran.
- Cyflwyno argymhellion i Dîm Arweinyddiaeth y Gyfadran ynghylch cyfeiriad strategol arferion EDI yn y Gyfadran.
- Hwyluso gweithgarwch EDI trawsbynciol yn y Gyfadran i annog a helpu i ddatblygu prosiectau a mentrau arloesol sy'n hyrwyddo'r strategaeth EDI.
- Adolygu data meintiol ac ansoddol bob blwyddyn i fonitro cynnydd y gweithgareddau a'r mentrau EDI.
- Cyfleu cynnydd a blaenoriaethu'r strategaeth EDI bob blwyddyn i gymuned y Gyfadran, gan gynnwys Tîm Arweinyddiaeth y Gyfadran a Phwyllgor Cydraddoldeb y Brifysgol drwy Arweinydd EDI y Gyfadran.
- Cyfathrebu â chymuned myfyrwyr a staff y Gyfadran bob blwyddyn ynghylch cynnydd a blaenoriaethau parhaus o ran EDI.
- Gweithio gyda chysylltiadau EDI allanol a mewnol er mwyn hyrwyddo strategaeth EDI y Gyfadran a'r Brifysgol ymhellach, gan gynnwys siartrau allanol.
- Gweithio i roi arweiniad a chymorth i arferion a phrosesau EDI ar lefel ysgolion.
- Dyrannu a monitro cyllidebau'r Gyfadran ar gyfer gweithgareddau a mentrau EDI.