GWELEDIGAETH

Ein gweledigaeth yw hyrwyddo ymchwil ym maes modelu mathemategol a chyfrifiadol, gwyddor data, deallusrwydd artiffisial a'u syntheseiddio, a chynnig atebion trawsnewidiol i broblemau'r byd go iawn.

Mae Sefydliad Zienkiewicz yn adeiladu ar y dreftadaeth wyddonol ddwys a'r enw a grëwyd yn Abertawe gan yr Athro Olgierd (Olek) Cecil Zienkiewicz, yn enwedig ei ymchwil amlddisgyblaethol a'i bwyslais ar ragoriaeth.

Drwy gydweithrediadau amlddisgyblaethol, ein nod yw sbarduno arloesi mewn meysydd amrywiol, a chyfrannu at arloesiadau sy'n gallu mynd i'r afael â'r heriau mawr mae cymdeithas gyfoes yn eu hwynebu.

Ein Themâu Ymchwil

NODAU DATBLYGU CYNALIADWY'R CENHEDLOEDD UNEDIG

Mae ein hymchwil yn cyfrannu at lwyddiant y nodau datblygu cynaliadwy penodol hyn.