Sefydliad ymchwil lled-annibynnol yw IMPACT. Mae wedi’i leoli yn adeilad Peirianneg Gogledd ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, ac mae’n rhan o’r Coleg Peirianneg.
Fel Canolfan Ragoriaeth, bydd y rhaglen ymchwil yn cynnig arbenigedd ym meysydd deunyddiau, prosesu a thechnolegau rhifyddol arloesol, wedi’i sbarduno gan gydweithio dwys rhwng diwydiant ac academia – fydd yn galluogi amgylchedd ymchwil trawsffurfiannol, effaith uchel ar gyfer cynnal gwaith gwyddonol sy’n arwain y byd.