YR HYN RYDYM YN EI WNEUD

Ers 30 i 40 mlynedd, mae Peirianneg Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe wedi gweithio gyda Rolls-Royce. Mae gwaith ymchwil a wnaed yma wedi arwain yn uniongyrchol at ddylunio cydrannau.

Mae Canolfan Dechnoleg y Brifysgol ar gyfer Deunyddiau Rolls-Royce yn aelod allweddol o'r Bartneriaeth Ddeunyddiau â phrifysgolion Birmingham a Chaergrawnt.

Mae Rolls-Royce wedi creu canolfannau technoleg mewn prifysgolion ledled y byd, gan ymdrin â gofynion technoleg peiriannau amrywiol.

Cenhadaeth y bartneriaeth hon yw manteisio ar arbenigedd academaidd i fynd i'r afael â gofynion deunyddiau rheng flaen ar gyfer peiriannau tyrbinau nwy Rolls-Royce. Mae'r ymchwil sylfaenol hon i ddeunyddiau'n angenrheidiol er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd amgylcheddol peiriannau tyrbinau nwy. 

EIN MEYSYDD YMCHWIL

Aloiau Titaniwm Llafnau Ffan ac SPFDB Llafnau Tyrbin Crisial Sengl
Siafftiau Dur Hynod Gryf (UHS) Caenau Rhwystro Thermol (TBC)
Technoleg Uno a Gwaith Atgyweirio  Aloiau Nicel Tymheredd Uchel   
Casinau Titaniwm  Cyfansoddion Alwminiwm
Seliau Treuliadwy Lludded Thermofecanyddol (TMF) Llosgwyr
Cyfansoddion Matrics Seramig Modelu Ymgripiad-Lludded ac Ymddygiad Ymylon Disgiau HPC
Deunyddiau ar gyfer Arbrofion Hydrogen Technegau Profi ar Raddfa Fach

 

Rolls Royce engine