CYNHADLEDD YMCHWIL ÔL-RADDEDIG: CYFLEU YMCHWIL MEWN ARGYFWNG HINSAWDD

Beth yw ystyr bod yn ymchwilydd ôl-raddedig yng nghyd-destun argyfwng hinsawdd a dirywiad mewn bioamrywiaeth?

Ymunwch â ni am ein cynhadledd ynghylch cyfleu ymchwil mewn argyfwng hinsawdd, a fydd yn ystyried y cwestiwn hwn. Cynhelir y gynhadledd:

  • Dydd Mercher 21 Chwefror 2024
  • 10:00-15:00
  • Adeilad Wallace, Campws Singleton
  • Croeso i bawb

Cofrestrwch eich bwriad i ddod yma – bydd rhagor o fanylion yn dilyn

Bydd y gynhadledd a arweinir gan fyfyrwyr yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gyflwyno eu hymchwil i gynulleidfa amlddisgyblaethol, ymarfer sgiliau cyflwyno a chael adborth mewn amgylchedd cyfeillgar.

Ein nod yw dod ag ymchwilwyr ôl-raddedig ynghyd o ddisgyblaethau gwahanol yn y Brifysgol a dathlu sut mae eu hymchwil yn cyfrannu at themâu'r Sefydliad Ymchwil i Newid yn yr Hinsawdd:

  • Amaethyddiaeth, defnydd tir, bioamrywiaeth a'r argyfwng ecolegol
  • Tywydd eithafol, lefel y môr, yr arfordir a'r cryosffer
  • Newid cymdeithasol a gwleidyddol a'r economi gylchol
  • Newid ein hunain a'n prifysgol
  • Technolegau ar gyfer pontio teg
  • Lles, cyfathrebu, straeon, addysgu a newid diwylliannol

Rydym yn gwahodd crynodebau sy'n ymwneud â'r themâu, yn ogystal â'r ffyrdd y gallwch fod wedi cydnabod neu esbonio effaith amgylcheddol eich ymchwil, o leihau eich ôl troed carbon, i annog cyfranogiad y gymuned.

Ni waeth pa mor fawr neu fach fo'r gweithredoedd, rydym am hwyluso trafodaeth am yr hyn y gallwn ei wneud fel ymchwilwyr ôl-raddedig.

Cyflwyniadau

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno poster ar gyfer y gynhadledd, hoffem glywed gennych!

Croesewir mathau eraill o gyflwyniad (megis fideos Tik Tok, gemau, etc) hefyd. Cysylltwch â ni os oes gennych syniadau am gyflwyniad creadigol. Rhoddir gwobrau am y posteri a'r cyflwyniadau gorau.

Anfonwch grynodeb hyd at uchafswm o 300 o eiriau erbyn dydd Gwener 5 Chwefror, 2024 i 2345653@abertawe.ac.uk. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni.