Business Meeting

Mae Pwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Effaith y Gyfadran (FRIIC) yn gyfrifol am ddatblygu a chymeradwyo strategaeth a blaenoriaethau ymchwil y Gyfadran.

Cadeirydd y pwyllgor yw'r Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith, ac mae'r pwyllgor yn darllen papurau gan y Gymuned Ymchwil ac yna'n penderfynu cymeradwyo'r papurau neu argymell newidiadau.

Mae dyddiadau cyfarfodydd, y cylch gorchwyl, cofnodion, papurau, templedi dogfennau, strwythurau a mwy ar gael i chi yn ein hyb pwrpasol yn Canvas.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Sam Board yn s.j.board@abertawe.ac.uk.

Is-bwyllgorau'r Gyfadran yw:

  1. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
  2. Mentergarwch, Partneriaethau ac Arloesi (EPI)
  3. Ymchwil Ôl-raddedig (PGR)
  4. Uniondeb, Moeseg a Llywodraethu Ymchwil (RIEG)
  5. Gweithgor Cefnogi Ymchwilwyr (RSWG)

Mae'r is-bwyllgorau'n gyfrifol am ddatblygu prosesau a gweithdrefnau i weithredu strategaeth a blaenoriaethau ymchwil FRIIC (yn ogystal â chefnogi'r pwyllgorau a'r Ysgolion eraill yn y Gyfadran).