Image of Zienkiewicz with light blue dot pattern

PWY YDYM NI

Mae Sefydliad Zienkiewicz yn un o'r pum Sefydliad Ymchwil yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Mae Sefydliad Zienkiewicz yn dod ag ymchwil ac arbenigedd ynghyd o bob rhan o'r Brifysgol ac yn cysylltu â rhanddeiliaid o bob rhan o gymdeithas hefyd, er mwyn:

  • hyrwyddo ymchwil i fodelu, data a deallusrwydd artiffisial
  • datblygu cymwysiadau
  • troi syniadau sy'n datblygu'n dechnolegau trawsnewidiol
  • darparu atebion cyfrifol i broblemau lleol a byd-eang

Gan adeiladu ar waith arloesol Olek Zienkiewicz yn Abertawe, mae gan wyddonwyr a pheirianwyr Sefydliad Zienkiewicz enw rhyngwladol sefydledig am ddatblygu atebion cyfrifiadol chwyldroadol sy'n mynd i'r afael â heriau gwyddonol a pheirianyddol.

CIPOLWG AR SEFYDLIAD ZIENKIEWICZ

Mae gan Sefydliad Zienkiewicz dros 150 o aelodau academaidd, yn eu plith modelwyr gwyddonol a pheirianyddol, cyfrifiadurwyr a mathemategwyr o 16 adran yn y Brifysgol.

Mae pum prif thema ymchwil gan Sefydliad Zienkiewicz:

  • Modelu, Data ac AI ar gyfer Gweithredu Hinsawdd
  • Modelu, Data ac AI ar gyfer Amaethyddiaeth ac Iechyd
  • Modelu, Data ac AI ar gyfer Deunyddiau a Gweithgynhyrchu
  • Modelu, Data ac AI yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a'r Economi
  • Sylfaen a Dulliau ar gyfer Modelu, Gwyddor Data ac AI