Students in materials research lab

Pam astudio peirianneg deunyddiau?

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yw'r pwnc pwysicaf nad ydych erioed wedi clywed amdano. Mae'n cyfuno agweddau ar ffiseg, cemeg, dylunio, mathemateg, a chelf hyd yn oed. Mae'n sail i fwy neu lai bob disgyblaeth peirianneg arall ac felly mae'n hanfodol ar gyfer datblygiadau mewn peirianneg fecanyddol, awyrofod, fodurol, drydanol a sifil.

Mae peirianwyr deunyddiau’n trin strwythur deunyddiau er mwyn rhoi'r priodweddau sydd eu hangen arnoch. Felly, gallwn wneud pethau'n gryfach, yn ysgafnach, yn anoddach eu torri, neu i wrthsefyll dirywio. Neu gallwn eu trin er mwyn eu gwneud yn lled-ddargludyddion gwell, i ddarparu rhinweddau dirgel neu i storio ynni.

Gwyddonwyr a pheirianwyr deunyddiau fydd yn mynd i’r afael â llawer o'r heriau byd-eang y mae’r gymdeithas yn eu hwynebu megis ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth lân, iechyd, diogelwch adnoddau, ac amddiffyn .

Fel myfyriwr yn yr Adran Ddeunyddiau, bydd gennych fynediad at rai o'r offer mwyaf datblygedig yn y DU a bydd yr ymchwil ddiweddaraf wedi'i hintegreiddio i'ch addysgu. Mae ein cydweithredwyr diwydiannol niferus, sy'n cynnwys Tata Steel, Rolls Royce, GE, GKN, y Bathdy Brenhinol, BASF, NSG Pilkingtons, DSTL, Akzo Nobel a Mott MacDonald, yn cefnogi'r radd trwy leoliadau diwydiannol, ysgoloriaethau ôl-raddedig, cyngor a mentora a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd gwerth chweil ar draws sawl sector ac maent ar flaen y gad o ran y datblygiadau technolegol diweddaraf.

GWEFINARS GWYDDONIAETH A PEIRIANNEG DEUNYDDIAU

Revolutionising Plastic Films

Cofleidio Dyfodol Eco-Gyfeillgar mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Gweld yma

New Materials for Solar Cells for Aerospace Applications?

Ymunwch ag Wing Chung Tsoi yn amlinellu beth yw ystyr celloedd solar ar gyfer cymwysiadau gofod?

Gweld yma

Revealing the Inner World of Materials

Dr Mark Coleman yn trafod sut mae popeth yn cael ei wneud allan o rywbeth.

Gweld yma

Active Buildings:Creating a future of sustainable and energy-efficient buildings

Ymunwch â Joanne Clark wrth iddi drafod dyfodol adeiladau cynaliadwy

Gweld yma

Rôl y Peiriannydd Deunyddiau wrth ddatrys argyfwng ynni’r byd

Mae Peirianneg Deunyddiau yn ddisgyblaeth eang sy’n cynnwys nifer o bynciau sy’n cael effaith

Gweld Yma

Towards a Sustainable Future: emerging technologies & the circular economy

Ymunwch â'r Athro Matt Davies ar gyfer y sesiwn blasu Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg hon.

Gweld yma

Do Metals get Tired?

Trafodaethau ag astudiaethau achos a methiannau awyrennau diweddar i drafod Blinder mewn Metelau.

Gweld yma