Mynd i'r afael â syniadau effeithiol

A montage of images with runners and fresh foods

Heriau

Un o gwestiynau mwyaf enbyd a sensitif mewn chwaraeon elit yw a ddylai athletwyr trawsryweddol a DSD fod yn gymwys i gystadlu yn y categori benywaidd, neu a oes angen addasu ein categorïau sy'n seiliedig ar ryw i sicrhau cystadleuaeth deg?

Mae pwnc llosg cyhoeddus arwyddocaol ynghylch unigolion a aned yn ddynion ond yn uniaethu fel menywod yn cystadlu yn y categori benywaidd. Ni waeth a yw'r trawsnewidiad yn cynnwys hunaniaeth, meddyginiaeth neu lawdriniaeth, yn aml mae mantais fiolegol yn gysylltiedig â lefelau testosteron yn ystod blaenaeddfedrwydd. Mae gan unigolion DSD (gwahaniaethau o ran datblygiad rhyw) gyflwr meddygol genetig a all arwain at fantais mewn chwaraeon; mae rheoliadau diweddar yn gofyn i holl athletwyr DSD leihau eu lefelau testosteron â meddyginiaeth er mwyn cystadlu.

Yn y byd academaidd, mae diffyg llenyddiaeth wrthrychol a adolygwyd gan gymheiriaid ar y pwnc hwn, ac amharodrwydd i ymgysylltu mewn trafodaethau yn sgîl newid confensiynau o ran terminoleg.

Y Dull

Mae'r astudiaeth DATES ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys tîm ymchwil traws-ddisgyblaethol sydd ag arbenigedd mewn moeseg, cymdeithaseg, bioleg, ffisioleg a chwaraeon elit. Mae'r tîm yn canolbwyntio ar greu canfyddiadau ymchwil moesegol i lywio datblygiad polisi.

Roedd un astudiaeth wedi cynnal arolwg dienw o 175 o athletwyr elit i ddeall eu barn a dylanwadu ar bolisi. Roedd 58% yn credu y dylai cymhwysedd gael ei bennu yn unol â rhyw biolegol, fodd bynnag, cred y mwyafrif y dylai unigolion gael yr hawl i drawsnewid, a bod angen i chwaraeon fod yn fwy cynhwysol.

Roedd yr arolwg hefyd yn amlygu'r arlliwiau ynghylch dosbarthiadau, fel y math o chwaraeon a safle'r athletwyr yn y gamp honno. Er enghraifft, o fewn chwaraeon manwl gywirdeb megis saethyddiaeth, roedd ychydig iawn o anfantais - neu nid oedd anfantais - i fenywod oedd yn cystadlu yn erbyn athletwyr traws neu DSD, o'i gymharu â chwaraeon cyswllt neu gorfforol.

Female athletes running on a track
Female athletes running on a track

Yr Effaith

Mae nifer o aelodau'r astudiaeth DATES yn gysylltiedig â Chymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain ac yn rhan o grŵp diddordeb arbennig mewn ffisioleg foleciwlaidd gyda ffocws ar gymhwysedd mewn chwaraeon elit.

Yn y gorffennol, mae llunwyr polisi wedi bod yn gwneud penderfyniadau heb ymgynghori ag athletwyr, ond nawr mae trafodaethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir. I adeiladu ar y gwaith hyd yn hyn, yn y blynyddoedd i ddod bydd y prosiect DATES yn ymgysylltu â chyfreithwyr, academyddion, llunwyr polisi ac athletwyr i gael dealltwriaeth o'r farn ar gynhwysiant athletwyr trawsryweddol a DSD mewn chwaraeon elît.

Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe