Rydym yn herio canfyddiadau o gylchred y mislif

A montage of females playing sport

Yr Her

Mae cylchred y misglwyf rheolaidd yn hynod bwysig ac yn arwydd hollbwysig o iechyd a lles da'n gyffredinol. Serch hynny, mae menywod, merched ac unigolion sy'n cael mislif yn aml yn gorfod brwydro yn erbyn symptomau gwanychol sy'n gysylltiedig â'r mislif, megis blinder, poenau mislifol, hwyliau amrywiol, tarfu ar gwsg a phennau tost. Mae rheoli'r symptomau hyn yn peri rhwystr sylweddol i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol mewn ysgolion a gall gael effaith negyddol ar berfformiad athletwyr elît.

Mae bod yn gorfforol weithgar yn hynod fuddiol o safbwynt iechyd a lles a gall leihau tostrwydd symptomau mislifol. Felly, gall cael dealltwriaeth well o newidiadau amrywiol hormonau a geir yn ystod cylchred y mislif helpu unigolion i ddefnyddio agweddau cadarnhaol, gan arwain at gyfranogiad a pherfformiad gwell mewn chwaraeon.

Girls playing football
 Athletes running
Girls waiting on a bench

Y Dull

Mae Dr Natalie Brown a thîm o ymchwilwyr o brifysgolion ar draws y DU yn cynnal cynllun peilot ar addysg y misglwyf mewn ysgolion gan ddefnyddio grwpiau ffocws i ddysgu am yr hyn y mae ei angen ar fyfyrwyr a rhoi adborth i athrawon. Mae Dr Brown hefyd yn cydweithio â Chwaraeon Cymru, England Netball (NetballHER), Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol a Rhaglen Merched Actif Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid i ddeall yr hyn sy'n ysgogi merched i gymryd rhan mewn chwaraeon a sut gall athrawon eu cefnogi. Mae hi hefyd yn cyfrannu at Period Education, grŵp addysg y misglwyf ar y wefan sy'n cynnwys academyddion ac arbenigwyr, gweithio mewn ysgolion, y gymuned a chyda chwaraeon elît ar draws y DU.

Yn ogystal, Dr Brown yw sylfaenydd Optimal Period, gwefan sy'n hyrwyddo canfyddiadau cadarnhaol am y misglwyf ac mae'n cynnig adnoddau, gwybodaeth a chymorth am ddim i ysgolion, hyfforddwyr ac unigolion.

Yr Effaith

Gall codi lefelau ymwybyddiaeth a gwybodaeth am y misglwyf gael effaith gadarnhaol ar ysgogiad a hyder unigolyn wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch chwaraeon, boed ar lefel Olympaidd neu fel rhan o addysg gorfforol mewn ysgolion. Mae ymchwil Dr Brown hefyd yn mynd i'r afael â phryderon ehangach am faterion fel delwedd negyddol am y corff, y stigma cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r misglwyf, tlodi misglwyf, urddas o ran y misglwyf a'r angen i wneud gweithgarwch corfforol yn berthnasol, yn atyniadol ac yn hygyrch i bawb.

Text Reads Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 1
UNSDG 3 Good Health
UNSDG 4 Quality Education
UNSDG 4 Quality Education
UNSDG 10 Reduced Inequalities
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
Health Innovation graphic