DEWCH I GWRDD Â SAM
Fy enw i yw Sam Williams ac yn ddiweddar rwy' wedi cwblhau'r cwrs MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy'n dod o Abertawe yn wreiddiol a chwblheais fy TGAU a'm cyrsiau Safon Uwch yn Ysgol Tregŵyr cyn astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.
Roedd y cwrs MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth yn Abertawe yn bleserus iawn am nifer o resymau. Mae hyn yn cynnwys natur unigryw’r cwrs. Mae diddordeb academaidd mewn terfysgaeth yn cynyddu, ac er bod mwy o sefydliadau academaidd yn datblygu cyrsiau sy'n adlewyrchu hyn, mae'r cwrs MA yn Abertawe yn gymharol unigryw oherwydd ei ffocws ar derfysgwyr a'u defnydd o'r Rhyngrwyd.
Mae Canolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) Prifysgol Abertawe yn arbenigo yn y maes hwn, a gwnaeth ei phartneriaethau â sefydliadau anacademaidd ein galluogi i wrando ar wahanol siaradwyr allanol. Roedd hyn yn cynnwys Erin Saltman, sy'n rheoli polisi gwrthderfysgaeth Facebook ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Roedd yn rhagorol cael cipolwg ar yr heriau wrth reoleiddio cynnwys terfysgaidd ar-lein gan y bobl sy'n ceisio gwneud hynny.
Hefyd, roedd amrywiaeth y pynciau y mae'r cwrs yn eu cynnwys yn ei wneud yn ddiddorol sydd hefyd yn golygu bod y cwrs MA yn apelio at fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd. Er enghraifft, mae gennyf radd yn y Gyfraith tra bod fy nghyd-fyfyrwyr wedi dod o gefndiroedd fel troseddeg, seicoleg a hanes. Mae astudio gwahanol ddisgyblaethau nid yn unig yn galluogi amrywiaeth eang o bynciau diddorol, ond hefyd mae'n ddefnyddiol dros ben wrth ehangu'r ystod o gyfleoedd gyrfaol posibl yn y dyfodol.
Mae'r cwrs MA hefyd yn darparu nifer o gyfleoedd i gael profiad proffesiynol. Gwelais hyn yn uniongyrchol yn ystod interniaeth ymchwil haf gyda Dr Katy Vaughan a oedd yn cynnwys archwilio cyfraith wrthderfysgaeth y Deyrnas Unedig mewn perthynas â grwpiau terfysgol yr asgell dde eithafol. Roedd llawer o'r darlithwyr eraill a oedd yn rhan o addysgu'r cwrs yn cynnig cyfleoedd tebyg, sydd eto'n hanfodol wrth gyflwyno ceisiadau am swyddi yn y dyfodol.
Ers cwblhau'r cwrs MA, mae gen i swydd Dadansoddwr Ymchwil ar gyfer NextGen 5.0, sef melin drafod rithwir sy'n arbenigo mewn ymchwil sy'n ymwneud â therfysgaeth. Ar ôl hynny, rwy' wedi derbyn cyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol er mwyn astudio PhD mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Teitl fy mhwnc yw ‘how misinformation in the aftermath of terror attacks has been used to influence public reactions by the UK far-right’. Bydd hyn yn cynnwys astudio rhyngweithiadau yn y cyfryngau cymdeithasol wedi ymosodiadau terfysgaidd er mwyn dadansoddi sut mae gwybodaeth gamarweiniol yn datblygu ac yn cael ei chamddefnyddio gan gefnogwyr yr adain dde eithafol. Ni fyddwn i wedi llwyddo i gael y cyllid heb yr wybodaeth a'r profiad a gefais gan y cwrs MA, ac yn bwysicach, y cymorth yr oedd y gwahanol academyddion yn Abertawe yn fodlon ei ddarparu.