Pam Fod Angen Cynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol Arnom

Os ydych chi erioed wedi gweld y cyffro yn llygaid plentyn wrth weld ci yn cerdded i mewn i'w ystafell ddosbarth, byddwch chi'n gwybod pa mor bwerus gall yr eiliad honno fod. Mae ysgolion ledled y byd yn frwdfrydig am y syniad o gael cŵn ar y safle i helpu i wella lles, cyfranogiad, cymhelliant a sgiliau cymdeithasol y myfyrwyr. Mae ymchwil wedi dangos bod cŵn mewn ysgolion yn gallu helpu i leihau pryder plant, helpu i reoleiddio emosiynau a hyd yn oed annog datblygiad empathi. Mewn oes pan fo iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethau, am resymau da, mae'r rhain yn fuddion enfawr. Dychmygwch blentyn sy'n cael trafferth rhyngweithio'n gymdeithasol, yn eistedd yn dawel wrth ymyl ci llonydd, yn ei anwesu ac yn profi ymdeimlad o heddwch nad yw braidd byth yn ei gael mewn ystafell ddosbarth brysur. Mae'n rhywbeth hyfryd, os ydyn ni'n paru'r plentyn iawn â'r ci iawn, yn y cyd-destun iawn.

Cynllunio ymlaen llaw

Ond rhaid bod yn ofalus: heb arweiniad a strwythur priodol, ni fydd pob plentyn na chi'n elwa'n gyfartal. A bod yn onest, gall pethau fynd o'u lle'n ddifrifol. Mae angen cynllunio a rheoli gofalus ar gyfer realiti dod ag anifail byw i gyd-destun ysgol sydd eisoes yn brysur.

Canlyniadau annisgwyl

Gwnaeth astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gyda thros 1,000 o athrawon ledled y byd ddatgelu canfyddiadau annisgwyl ac, a bod yn onest, rai a gododd bryder. Er bod y rhan fwyaf o athrawon yn frwdfrydig am fuddion posib cael cŵn yn eu hystafelloedd dosbarth, maen nhw hefyd yn wynebu heriau annisgwyl. Mae sefyllfaoedd heriol yn codi, ac mae llawer o athrawon yn dweud nad ydynt wedi'u paratoi i fynd i'r afael â nhw. Nid yw hyn yn syndod - mae athrawon yn ddawnus, yn ddiwyd ac yn greadigol, ond nid yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u hyfforddi i drin cŵn.

Soniodd rhai athrawon am deimlo'n hollol ar goll o ran gweithio gyda chi ochr yn ochr â'u dysgwyr. Beth os oes ofn cŵn ar blentyn? Beth os bydd ci'n teimlo'n bryderus ac yn ymateb mewn ffordd a allai fod yn anniogel? Dyma broblemau go iawn y mae angen eu datrys. Yn ein prosiect ymchwil, pan wnaethon ni ddadansoddi deunydd fideo o ryngweithiadau rhwng plant a chŵn, roedd y rhan fwyaf yn llawen, ond gwelon ni adegau hefyd pan oedd y cŵn yn amlwg yn teimlo'n bryderus.

Ac mae'n dod yn fwy cymhleth. Mae llawer o ysgolion yn mabwysiadu cŵn heb unrhyw arweiniad neu brofiad ffurfiol. Mae'r arferion yn amrywio'n eang. Mae rhai cŵn yn perthyn i aelod o'r staff ac yn dod i'r ysgol bob dydd, ac mae eraill yn ymweld yn achlysurol drwy sefydliadau eraill. Y broblem i ysgolion sy'n gweithredu'n annibynnol yw nad oes ymagwedd gyson ac nid oes canllawiau sydd ar gael yn hwylus i sicrhau bod y rhyngweithiadau hyn yn rhai cadarnhaol a chynhyrchiol i bawb.

Sut gall yr NSDA wneud gwahaniaeth?

Felly, beth yw'r camau nesaf? Dyma ble gall y Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol helpu. Ein gobaith yw y bydd yr NSDA yn gweddnewid y sefyllfa drwy ddod ag academyddion, addysgwyr, gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, arbenigwyr ymddygiad cŵn a llunwyr polisi ynghyd i greu cymuned gydlynol i hyrwyddo trafodaeth am egwyddorion effeithiol ar gyfer integreiddio cŵn mewn ysgolion.

Dychmygwch fyd lle mae pob athro sydd am gyflwyno ci i ystafell ddosbarth yn gallu cyrchu astudiaethau achos, adnoddau ac enghreifftiau o arfer gorau. Lle mae gan bob ysgol ganllawiau clir ar sut i reoli lles y ci ynghyd â lles y plant. A lle mae corff yn lobïo i gael safonau cenedlaethol ar gyfer gwerthuso effaith ci yn yr ystafell ddosbarth. Dyma'r dyfodol mae'n rhaid i ni weithio tuag ato.

Bydd yr NSDA hefyd yn darparu cymorth mawr ei angen i athrawon sy'n frwdfrydig ond yn ansicr sut i fwrw ymlaen. Byddai'n rhwydwaith lle gall addysgwyr ddod o hyd i hyfforddiant a chyngor a hyd yn oed rhannu eu profiadau. Ac mae'n ehangach na'r Deyrnas Unedig yn unig - mae potensial i gydweithredu'n rhyngwladol, rhannu gwybodaeth rhwng gwledydd fel yr Almaen, yr Iseldiroedd a'r tu hwnt. Byddai hyn yn hwyluso cyfnewid cyfoethog o syniadau ac arferion gorau, gan sicrhau, ni waeth ble rydych chi, fod cŵn yn cael eu hintegreiddio mewn ysgolion â gofal, cywirdeb a sylw i fanylion.

Y rhan fwyaf cyffrous? Fydd yr NSDA ddim yn canolbwyntio ar ganllawiau a pholisïau yn unig - byddai'n creu cymuned go iawn. Byddai gan athrawon, hyfforddwyr cŵn, ymchwilwyr a myfyrwyr oll rôl i'w chwarae wrth lywio dyfodol cŵn ysgol. Byddai ein gwefan yn gyfrwng allweddol ar gyfer rhannu adnoddau, ond yn bwysicach fyth, ar gyfer meithrin sgyrsiau. Dychmygwch allu gwrando ar bodlediad lle mae arbenigwyr rhyngwladol yn trafod materion allweddol sy'n ymwneud â chŵn, neu gymryd rhan mewn cynhadledd ar-lein lle gall athrawon gwrdd ag arbenigwyr, llunwyr polisi a hyd yn oed ymchwilwyr o bob cwr o'r byd sy'n ymwneud â chŵn. Neu gael cyfle i waith eich ci ysgol gael ei gydnabod drwy gystadleuaeth Ci Ysgol y Flwyddyn y DU. Byddai'r trafodaethau'n gyfoethog a byddai'r potensial am newid yn anferth.

Felly oes, mae gan gŵn ysgol botensial i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant - ond dim ond os yw'n cael ei wneud yn iawn. Ein gobaith ni yw y bydd y Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol yn ein helpu i wneud hynny. Gadewch i ni adeiladu hyn gyda'n gilydd a sicrhau bod pob plentyn sy'n cwrdd â chi yn ei ysgol yn cael profiad diogel, cadarnhaol a thrawsnewidiol. Mae'n bryd troi'r syniad gwych hwn yn rhywbeth sy'n gweithio i bawb, gan gynnwys y cŵn.

Prif negeseuon

  • Pam mae angen NSDA arnom?
  • Beth gallai hwn ei gyflawni?

Pwyntiau adfyfyrio

  • Sut gallech chi gyfrannu at nodau a gweledigaeth yr NSDA?

Cyfeirnodau a darllen pellach

Lewis, Helen, Godfrey, Janet Oostendorp, Knight, Cathryn (2023) Tales of the unexpected: Teacher’s experiences of working with children and dogs in schools, Human-Animal Interactions, https://www.cabidigitallibrary.org/doi/10.1079/hai.2023.0040