Ymunodd Sarah Bowden, gwirfoddolwr Burns By Your Side a’i chi Menna â Helen Lewis yng
nghynhadledd CRIP 2024. Mewn sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar les dysgwyr, rhannodd Sarah ei phrofiadau o weithio mewn ysgolion gyda Menna. Rhoddodd hyn gyfle i'r cynrychiolwyr glywed mwy am ymarferoldeb gweithio gydag anifail yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â’r manteision posibl.
Cynhaliodd y tîm addysg â chymorth anifeiliaid seminar hybrid lwyddiannus 'A ddylem ni gael cŵn mewn ysgolion?' ar 6 Mawrth 2024. Ymunodd dros 50 o bobl â’r gynulleidfa, gan gynnwys myfyrwyr, athrawon, seicolegwyr, Estyn, gweithwyr cymdeithasol, gwirfoddolwyr addysg â chymorth cŵn a gweithwyr proffesiynol ymddygiad cŵn ochr yn ochr â Molly’r ci a’i pherchennog Marilyn. Roedd y cyflwyniadau’n canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau ond roedd pob un yn ystyried effaith cŵn mewn ysgolion, a lles y cŵn eu hunain. Cynrychiolodd y cyflwynwyr gefndiroedd amrywiol y bobl sy’n gweithio yn y maes:
• Dr Helen Lewis (Prifysgol Abertawe)
• Ceri Littlewood (Ysgol Gynradd Oldcastle)
• Cara Johnston (Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl, CAMHS)
• Sarah Ellis a Carol Lincoln (Therapy Dog Training UK)
Roeddem yn falch iawn bod Dr Marc Abraham, OBE ('Marc y milfeddyg'), ysgrifennydd a chyd-sylfaenydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol Ymgynghorolar Les Cŵn (APDAWG) yn San Steffan wedi rhoi'r anerchiad cloi.
Yn y flwyddyn academaidd 2023-24 mae sawl myfyriwr wedi canolbwyntio ar anifeiliaid mewn addysg fel rhan o'u hastudiaethau. Mae Kirsty Winters, myfyrwraig TAR Cynradd, wedi dewis canolbwyntio ar gŵn ysgol ar gyfer ei phrosiect ymchwil terfynol. Mae hi’n archwilio’r strategaethau mae’r ysgol yn eu defnyddio i sicrhau diogelwch a lles plant ym mhresenoldeb ci preswyl yr ysgol, ac mae’n chwilio am unrhyw heriau sy’n gysylltiedig â’r strategaethau hyn. Mae Megan Driscoll, myfyrwraig BA Addysg, wedi gwneud ei thraethawd hir yn y maes hwn, ac sy'n archwilio 'Beth yw profiadau athrawon a phlant sy'n defnyddio anifeiliaid mewn addysg?
Dyfarnwyd cyllid Cyfnewid Gwybodaeth 'Taith' i Helen Lewis i ymweld â Phrifysgol British Columbia ym mis Tachwedd 2023. Ei ffocws oedd darganfod mwy am y rhaglen BARK (Building Academic Retention through K9s) sydd wedi'i hen sefydlu. Mae hyn yn cefnogi lles myfyrwyr yn y brifysgol, yn ogystal ag ymweld â phlant mewn ysgolion lleol. Yn ystod ei hymweliad roedd Helen yn gallu arsylwi sesiynau mewn ysgolion yn ogystal ag ymweld â’r brifysgol i gwrdd â gwirfoddolwyr, y tîm a dysgwyr o bob oed i ddysgu mwy am weithrediad y rhaglen hynod lwyddiannus hon.
Mae papur o’r enw ‘Tales of the unexpected: Teacher’s experiences of working with children and dogs in schools' gan Helen Lewis, Janet Oostendorp Godfrey a Cathryn Knight (Prifysgol Bryste) wedi cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Human-Animal Interaction. Mae'r papur hwn yn canolbwyntio ar edrych ar yr heriau o gynnwys cŵn mewn arfer ystafell ddosbarth.
Mae Helen Lewis wedi cyhoeddi pennod o'r enw 'Canine-assisted Educational Activities in a University Setting: Reflecting on Ways to Promote Happy and Mutually Beneficial Experiences' yn y llyfr sydd i ddod, 'Animal Assisted Intervention'.
Mae Helen Lewis a Russell Grigg wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill grant Cyfrif Cyflymiad Effaith ESRC. Bydd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu canllawiau i ysgolion sydd â diddordeb mewn datblygu ymyriadau gyda chŵn ysgol.
Llwyddodd sawl myfyriwr israddedig ar y radd BA Addysg i gwblhau eu traethodau hir ar gyfranogiad anifeiliaid mewn ysgolion. Roedd y rhain yn cynnwys Candice Tong 'Why should animal-assisted interventions be used in Hong Kong'; Lydia Morgan 'An exploration of the benefits of dogs in the classroom: motivators for increased attendance in primary school.', Jordan Jehengir 'Animals in Education: Why some primary schools in Swansea choose not to involve animals' a Sophie Corbett 'An exploration of how Welsh primary schools use dogs to promote children's knowledge, understanding and skills in the curriculum'.
Cyflwynodd Dr Helen Lewis, Dr Janet Oostendorp, a myfyriwr Meistr Marikris DeLeon boster gyda'r teitl Examining the relationships between children, handlers and dogs in canine assisted educational contexts yng Nghynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Anthrosŵoleg, Caeredin 2023. Yn yr un gynhadledd, cyd-awdurodd SPiNterns Prifysgol Abertawe Bethany Hill, Lydia Morgan a Wish DeLeon boster cynhadledd o'r enw Designing an analytical framework for canine-assisted interventions in school contexts gyda Dr Helen Lewis.
Gwobrwywyd Helen Lewis gyda’r Wobr Ymchwil yng nghynhadledd flynyddol y Society for Companion Animals Studies (2021) am ei chyflwyniad Animal-Assisted Interventions: Research meets Practice.
Dyfarnwyd Gwobr Grantiau Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig/Leverhulme i Helen Lewis ar gyfer prosiect o'r enw ‘An exploration of best practices in animal-assisted educational interventions which involve dogs’. SRG2021\211214. Mawrth 2022: Cyfwelwyd Helen Lewis ar gyfer eitem ar anifeiliaid mewn ysgolion ar TeacherTalk Radio.
Mawrth 2022: Cyfwelwyd Helen Lewis ar gyfer eitem ar anifeiliaid mewn ysgolion ar TeacherTalk Radio.
Ffilmiodd BBC Cymru mewn ysgolion lleol a chyfweld â Helen Lewis ym mis Mehefin 2022, pan gyhoedden nhw erthygl am gŵn mewn ysgolion.
Gwahoddwyd Helen Lewis i siarad yng nghynhadledd yr American Psychological Association Human-Animal Interaction Section 13, Division 17. Rhoddodd hi sgwrs o'r enw Dogs in schools: taking the lead towards well-being for all.
Ym mis Gorffennaf 2022, dyfarnwyd tystysgrif Arbenigwr Ymyriad â Chymorth Cŵn (Canine-Assisted Intervention Specialist) i Helen Lewis gan Brifysgol Denver.
Ffilmiodd rhaglen y BBC The One Show Helen Lewis ac athrawon mewn ysgolion lleol ar gyfer eitem a gafodd ei darlledu yn gynnar yn 2023.