EIN HYMCHWIL YN YSGOL Y GWYDDORAU CYMDEITHASOL

Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn hyb deinamig o weithgaredd ymchwil, sy'n cynnwys disgyblaethau amrywiol ac ysgolheigion o amrywiaeth o gefndiroedd academaidd. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol o fewn y disgyblaethau: Economeg, Addysg, Troseddeg, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Gwleidyddiaeth, a Pholisi Cymdeithasol. 

Mae ein gwaith yn ymrwymedig i fynd i'r afael â heriau cyfoes a'r dyfodol ar raddfeydd byd-eang, cenedlaethol a lleol. O ddeinameg economaidd i ddiwygiadau addysgol, o gyfiawnder troseddol i ddiplomyddiaeth ryngwladol, mae ein hymchwilwyr yn archwilio materion amlweddog sy'n effeithio ar y byd rydym ni’n byw ynddo. Mae ein hymchwil wedi'i hwyluso gan y grwpiau a chanolfannau ymchwil canlynol: 

Canolfannau a Grwpiau Ymchwil

Grŵp Ymchwil Microeconomeg Gymhwysol

chess

Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang

podcast

Chwilio ein Harbenigedd