Mae'r Ganolfan Ymchwil Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymharol (CPP) yn ymroddedig i astudiaeth empirig a seiliedig ar ddamcaniaeth o sefydliadau, prosesau, cyfryngwyr ac ideolegau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau meintiol ac ansoddol, mae ei haelodau'n mynd ar drywydd ymchwil wreiddiol ar heriau cyfoes ym meysydd cyfranogiad democrataidd ac ymddiriedaeth, llywodraethu aml-lefel, technolegau digidol, amlddiwylliannaeth, ymfudo, poblyddiaeth a gwleidyddiaeth bleidiol, hawliau dynol a diogelu'r amgylchedd. Yn ogystal â galluogi cydweithredu mewnol, mae'r Ganolfan yn gwahodd siaradwyr allanol yn rheolaidd ac yn ymgysylltu ag ymarferwyr mewn llywodraeth, cymdeithas sifil a phroffesiynau amrywiol. Mae'r aelodau'n cynnwys ymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfaoedd yn Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe, yn ogystal â phartneriaid mewn sefydliadau eraill.

Yn gysylltiedig â:

Pobl

Cyd-Gyfarwyddwr

Mae Dr Dilling yn ysgolhaig gwleidyddiaeth gymharol sy'n ymchwilio i pam a sut mae pleidiau gwleidyddol yn newid a beth mae hyn yn ei olygu i gadernid democratiaeth. Mae ei ymchwil unigol a chydweithredol wedi cael ei ariannu gan, ymhlith eraill, y John Fell Fund, y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudio Gwleidyddiaeth yr Almaen, ac Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Rhydychen. 

Dr Matthias Dilling
Dr Matthias Dilling

Cyd-Gyfarwyddwr

Mae Dr Dupont yn ysgolhaig ar wleidyddiaeth hil, ethnigrwydd a chrefydd. Mae'n ymchwilio i bolisi gwrth-wahaniaethu, anghydraddoldebau cyflogaeth ac addysg, a hawliadau hawliau dynol. Ymhlith prosiectau eraill, ar hyn o bryd mae'n cwblhau monograff o'r enw Anti-racism, multiculturalism and human rights, o dan gytundeb â Palgrave.

Dr Pier-Luc Dupont
Dr Dupont

Prosiectau PhD

student writing

Cyhoeddiadau Academaidd Dethol

student

Newyddion

Cynhadledd

Ar 31 Mai 2023, cynhaliodd y grŵp ymchwil gynhadledd undydd ar y pwnc "Cadernid Democrataidd ac Arloesi Democrataidd" ar Gampws Singleton Abertawe. Gyda democratiaethau ledled y byd dan bwysau i ymateb i heriau mawr, gan gynnwys newid hinsawdd, argyfyngau iechyd, cynnydd y dde eithafol, a mwy o anghydraddoldeb cymdeithasol, daeth y gynhadledd ag ysgolheigion o bob rhan o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Abertawe ynghyd i drafod ac edrych ar y camau a'r datblygiadau arloesol sydd wedi dechrau dod i'r amlwg mewn ymateb i'r blynyddoedd diweddar o gythrwfl cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Gellir dod o hyd i raglen y gynhadledd PAG Resilience and democratic programme

Sesiwn syniadau ymchwil cynnar Sesiwn dysgu gan gymheiriaid Grŵp darllen dulliau Grantiau ac ysgrifennu cynigion