Ym mis Mehefin 2024, cyflwynodd Helen Lewis a Janet Oostendorp eu gwaith yn archwilio lles cŵn mewn ysgolion yn 33ain Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ryngwladol Anthrosŵoleg (ISAZ), Prifysgol Hartpury, Swydd Gaerloyw. Dros bedwar diwrnod, siaradodd prif siaradwyr o bob rhan o'r byd am fanteision y cwlwm dynol-anifail. Roedd y gynhadledd yn gyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr a chyd-awduron o gyn belled ag Awstralia, Canada a Chile. Roedd yna hefyd arddangosiad am Farchogaeth Para-Gynorthwyol a'r addasiadau estynedig ar gyfer cyfathrebu rhwng ceffyl a marchog.

Rhoddodd Helen Lewis a Janet Oostendorp ddau gyflwyniad yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Anifeiliaid Anwes ym mis Hydref 2024. Roedd cyflwyniad Helen yn canolbwyntio ar 'Cŵn yn yr Ysgol: Pa wersi y gellir eu dysgu o ymchwil?' a theitl cyflwyniad Janet oedd 'Dogs, Immersive Virtual Reality (VR) and school-based tasks - Can only 'live' dogs in schools enhance motivation and attainment?'.

Ym mis Gorffennaf 2024 recordiodd Helen Lewis bodlediad Animals in Education Settings ac ysgrifennodd erthygl am pam y gall anifeiliaid fod yn fuddiol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ar gyfer The Voice of Early Childhood. Sefydliad rhyngwladol ydyw sy’n cefnogi plentyndod cynnar trwy rannu ystod eang o leisiau, ysgogi myfyrdod, deialog ac ymagwedd gymunedol. Mae cyfraniadau Helen yn canolbwyntio ar ystyried manteision, heriau a lles yr anifeiliaid mewn cyd-destunau addysgol.

Ymddangosodd prosiect diweddaraf Helen Lewis, y Gynghrair Genedlaethol Cŵn Ysgol (NSDA), yn rhifyn mis Hydref o 'Dogs Today' (Rhifyn 362:22-24). Mae’r NSDA yn dod â gweithwyr addysg proffesiynol, ymchwilwyr, milfeddygon, elusennau ac ymddygiadwyr cŵn ynghyd, a phob un ohonynt â diddordeb cyffredin o ran sut i hyrwyddo arfer gorau mewn addysg â chymorth cŵn. Mae’r gynghrair wedi bod yn cydweithio ers 18 mis a bydd ei gwefan yn lansio ym mis Tachwedd 2024. Ei gweledigaeth yw gweld bod y ci iawn yn yr ysgol iawn, yn gweithio gyda’r dysgwyr iawn. Nod y gynghrair yw:

  • darparu arweiniad ac adnoddau o ansawdd uchel i gefnogi rhyngweithio cadarnhaol rhwng cŵn a phobl/ysgolion
  • sefydlu cymuned lle mae arferion arloesol sydd wedi eu llywio gan ymchwil yn cael eu rhannu a'u trafod
  • hysbysu rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys arweinwyr ysgol a llunwyr polisi, am gyfleoedd, materion a heriau cyfredol
  • addysgu athrawon, plant a thrinwyr cŵn fel bod rhyngweithio'n ddiogel.

Mae gwaith y gynghrair yn seiliedig ar y gwerthoedd craidd canlynol:

  • Tosturi: hyrwyddo rhyngweithiadau dynol-cŵn tosturiol
  • Parch: parchu cŵn fel creaduriaid ymdeimladol
  • Diogelwch: sicrhau diogelwch pawb sy'n cymryd rhan

Ymunodd Sarah Bowden, gwirfoddolwr Burns By Your Side a’i chi Menna â Helen Lewis yng nghynhadledd CRIP 2024. Mewn sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar les dysgwyr, rhannodd Sarah ei phrofiadau o weithio mewn ysgolion gyda Menna. Rhoddodd hyn gyfle i'r cynrychiolwyr glywed mwy am ymarferoldeb gweithio gydag anifail yn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â’r manteision posibl.

Cynhaliodd y tîm addysg â chymorth anifeiliaid seminar hybrid lwyddiannus 'A ddylem ni gael cŵn mewn ysgolion?' ar 6 Mawrth 2024. Ymunodd dros 50 o bobl â’r gynulleidfa, gan gynnwys myfyrwyr, athrawon, seicolegwyr, Estyn, gweithwyr cymdeithasol, gwirfoddolwyr addysg â chymorth cŵn a gweithwyr proffesiynol ymddygiad cŵn ochr yn ochr â Molly’r ci a’i pherchennog Marilyn. Roedd y cyflwyniadau’n canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau ond roedd pob un yn ystyried effaith cŵn mewn ysgolion, a lles y cŵn eu hunain. Cynrychiolodd y cyflwynwyr gefndiroedd amrywiol y bobl sy’n gweithio yn y maes:

  • Dr Helen Lewis (Prifysgol Abertawe)
  • Ceri Littlewood (Ysgol Gynradd Oldcastle)
  • Cara Johnston (Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl, CAMHS)
  • Sarah Ellis a Carol Lincoln (Therapy Dog Training UK)
  • Roeddem yn falch iawn bod Dr Marc Abraham, OBE ('Marc y milfeddyg'), ysgrifennydd a chyd-sylfaenydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol Ymgynghorolar Les Cŵn (APDAWG) yn San Steffan wedi rhoi'r anerchiad cloi.

Mae llyfr Helen Lewis a Russell Grigg, ‘Dogs in School: pedagogy and practice for happy, healthy and humane interventions’ wedi’i gyhoeddi gan Routledge. Mae'r llyfr hwn yn cynnig golwg gynhwysfawr ar gymhlethdodau perthnasoedd pobl a chŵn yn gyffredinol, ac mewn lleoliadau addysgol yn benodol. Mae manteision posibl megis gwella cymhelliant, empathi a dysgu'r myfyrwyr yn cael eu cydbwyso â risgiau a heriau posibl, gan gynnig gwybodaeth sy'n seiliedig ar ymchwil ar y pwnc. https://www.routledge.com/Dogs-in-Schools-Pedagogy-and-Practice-for-Happy-Healthy-and-Humane-Interventions/Lewis-Grigg/p/book/9781032189383