Mae'r Ganolfan ar gyferNewid   Cymdeithasol, yn yr Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, yn hyrwyddo ysgolheictod pwysig ar draws Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Rydym yn cynnig platfform i gefnogi datblygiad ymchwil a'i lledaenu sy'n croesholi'n feirniadol greu a llywodraethu ffenomena cymdeithasol o safbwyntiau methodolegol a damcaniaethol amrywiol.  

Rydym yn gweithio ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil gyda'r nod o hyrwyddo newid cymdeithasol. Mae ein hymchwil yn archwilio achosion, dulliau ac effaith amrywiol anghydraddoldebau cymdeithasol-ddiwylliannol, ymyleiddio, eithrio a newid ac yn ystyried ffyrdd i ysgogi a dysgu'n effeithiol gan gydweithrediadau, cyfranogiad a gweithredu cymunedol.     

Yn ystod y flwyddyn academaidd, byddwn yn cynnal y canlynol:   

  • Seminarau ymchwil rheolaidd sy'n agored i gydweithwyr ar draws y brifysgol, gyda siaradwyr mewnol ac allanol
  • Sesiynau ysgrifennu ddwywaith yr wythnos sy'n agored i'r holl staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
  • Sesiynau cymorth gan gymheiriaid er mwyn datblygu allbynnau ymchwil

Prosiectau

Deall Gwaith Rhyw
logo

Mae’r Athro Tracey Sagar a’r Athro Cysylltiol Debbie Jones wedi ymchwilio i natur a dealltwriaeth o waith rhyw ers nifer o flynyddoedd. Mae eu gwaith wedi ceisio ailgysyniadu gwaith rhyw er mwyn lleihau stigma a gwella lles gweithwyr rhyw yn enwedig o ran myfyrwyr. Mae hyn wedi arwain at newidiadau eang mewn polisïau ymarfer yng Nghymru ac ystyrir gwaith rhyw yn fater y mae angen dulliau aml-asiantaeth arno ac yn ffactor hanfodol o ran llunio polisi mewn meysydd eraill, gan gynnwys trais domestig a chaethwasiaeth fodern.  

Ymateb i gam-drin plant yn rhywiol

Pobl

Cyfarwyddwr

Mae Sam yn addysgu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig ar ddamcaniaeth a dulliau ymchwil o ran troseddeg, yn ogystal â modiwl ôl-raddedig ar ddiddymu cosbau. Mae ei ymchwil yn archwilio'r modd y mae gwaith rhyw yn cael ei lywodraethu a'i reoleiddio, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyd-destun Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n ymddiddori mewn natur addasadwy a phŵer symbolaidd cysyniadau megis diogelu a bod yn agored i niwed, a sut defnyddir y rhain fel mathau o reolaeth gymdeithasol.

Dr Sam Hanks
Dr Sam Hanks

Cyhoeddiadau Academaidd

student in library

Cyhoeddiadau Myfyrwyr

students in library