Ystyrir mai Ysgol Fusnes Rennes yw'r Ysgol Reoli fwyaf rhyngwladol yn Ewrop ac mae'n meddu ar bob un o'r tri achrediad perthnasol (EQUIS, AMBA, AACSB).
Beth sy'n cael ei gynnwys?
- Cymysgedd o ddosbarthiadau cydamserol a dosbarthiadau anghydamserol y gallwch eu gwylio eto
- Cynadleddau gyda siaradwyr gwadd
- Ymweliadau rhithwir â chwmnïau
- Gweithgareddau diwylliannol rhithwir
Sut Gallaf Wneud Cais?
Mae cyllid yn gyfyngedig a chaiff ei ddyfarnu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae myfyrwyr israddedig presennol Prifysgol Abertawe yn gymwys i ymgeisio.Gall myfyrwyr ôl-raddedig gyflwyno cais am gyllid hefyd, ond mae'n rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth bod eu goruchwyliwr academaidd yn cymeradwyo eu cyfranogiad. Mae cyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr cymwys drwy'r rhaglen Cymru Fyd-eang Darganfod.
- Gallwch gyflwyno cais am gyllid Ewch yn Fyd-eang drwy ddefnyddio un ffurflen syml:
Lawrlwythwch y Ffurflen Cais am Gyllid Rhaglen Haf Rithwir 2021 a'i dychwelyd drwy e-bost i a.harry@abertawe.ac.uk. Yna byddwn ni'n gwirio eich cymhwysedd ac yn cadarnhau a gaiff cyllid ei ddyfarnu i chi. Fel rhan o hyn, byddwn ni'n gwirio'n awtomatig a ydych chi'n gymwys i dderbyn cyllid Ehangu Cyfranogiad. Bydd lefel y cyllid a ddyfernir yn dibynnu ar gost eich rhaglen. Ni chaiff rhaglenni eu hariannu'n llawn. Bydd y tîm Ewch yn Fyd-eang yn cadarnhau eich cymhwysedd ac yn anfon Cytundeb Cyfranogiad atoch i'w lofnodi.
- Cyflwyno cais i'r rhaglen haf rithwir o'ch dewis:
Cyflwynwch gais i'r rhaglen o'ch dewis yn uniongyrchol. Bydd arnom angen cadarnhad eich bod wedi'ch derbyn ar y cwrs.
- Dechrau eich rhaglen:
Ni fyddwn yn prosesu’r cyllid tan inni dderbyn tystiolaeth eich bod wedi'ch derbyn a'ch cofrestru, ac ar ôl i ddarparwr eich rhaglen lofnodi ein ffurflen Cadarnhau Dechrau. Sylwer bod hyn yn golygu y byddwch yn derbyn eich cyllid ar ôl i’ch rhaglen ddechrau. Cofiwch hyn wrth gyllidebu.