Gall y tudalennau hyn eich helpu i wneud penderfyniadau am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Darpariaeth gyfrwng Gymraeg yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Ysgol Seicoleg
Cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg
Caiff pob myfyriwr sy'n astudio yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
-
Dewis cael ei cyfweld yn y Gymraeg wrth geisio am le
-
Dewis gweithio gyda mentor sy'n siarad Cymraeg os yn astudio cwrs sydd â lleoliad gwaith ynddo
-
Cael Tiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg
-
Cyflwyno aseiniadau yn y Gymraeg
-
Dewis llety sydd wedi’i neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg
-
Lawrlwythwch ein ap am ddim yma: Gofalu Trwy'r Gymraeg
Yn ogystal â hynny, bydd gan bob myfyriwr israddedig cyn-gofrestru (sy'n cynnwys myfyrwyr bydwreigiaeth, gwyddor barafeddygol, nyrsio, a gwyddor gofal iechyd) fynediad at ddogfennau portffolio dwyieithog, ac mae gan bob myfyriwr Cymraeg ei iaith logo ar y lifrai a wisgir yn ystod ei gyfnodau ymarfer.
- Mae darpariaeth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr BSc Nyrsio Oedolion, BSc Nyrsio Plant, a BSc Nyrsio Iechyd Meddwl, a myfyrwyr BSc Gwaith Cymdeithasol.
Ariannu
-
Cynigir Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fyfyrwyr sy'n astudio ystod o gyrsiau gradd - yn rhannol neu yn gyfan gwbl - trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Telerau ac Amodau ar y cynllun hwn.
-
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi ar gael i fyfyrwyr Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol a Seicoleg (Mae Amodau ar y cynllun hwn).