Mae Mandarin ar gael drwy ein rhaglen Ieithoedd i Bawb, a gellir ei hastudio ar y cyd â Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg ar ein rhaglen BA Ieithoedd Modern. Mae ein BA Ieithoedd Modern yn cynnig cwricwlwm eang gyda llwybrau Diwylliant, Addysg a Chyfieithu. Caiff Mandarin ei haddysgu gan Dr Sabrina Wang yn bennaf, sy’n arbenigo mewn cyfieithu ar y pryd, a bydd cydweithiwr newydd yn ymuno â hi ym mis Medi 2019.
I siaradwyr brodorol Mandarin, sydd fel arfer yn astudio yn ein prifysgolion partner yn Tsieina, rydym hefyd yn cynnig BA Saesneg-Tsieinëeg Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.
Gall pob myfyriwr sy’n astudio Mandarin gymryd rhan yn y Café Cha Cha wythnosol lle gallant ymarfer eu sgiliau iaith gyda myfyrwyr cyfnewid o Tsieina. Gall myfyrwyr hefyd ymuno â Chymdeithas Tsieinëeg y Brifysgol.
Gall siaradwyr brodorol hefyd arbenigol mewn Mandarin ar y graddau MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol, sy’n cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor hefyd. Mae gennym gymuned o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n ffynnu, yn gweithio ar bynciau sy’n ymwneud â Mandarin ym maes Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.