Gwahoddir yr holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ein rhaglen BA Ieithoedd Modern i nodi eu llwybr eu hunain drwy ein cynllun gradd. Mae'r drefn unigryw hon yn galluogi myfyrwyr i ddewis modiwlau mewn Astudiaethau Diwylliannol, Cyfieithu ac Addysgu Ail Iaith ac Addysgeg o'r eiliad y maent yn cyrraedd Prifysgol Abertawe. Ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, mae myfyrwyr yn gallu dangos tystiolaeth o'u maes arbenigol i ddarpar gyflogwyr. Neu, gall myfyrwyr gymryd modiwlau o lwybrau gwahanol mewn blynyddoedd gwahanol, sydd felly'n dangos ystod ehangach o wybodaeth ac arbenigedd.
Gallwch ddod o hyd i fanylion am ein modiwlau Diwylliant a Chymdeithas ar y dudalen briodol o bob iaith. Mae'r modiwlau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr addysgu'n cynnwys Cyflwyniad i Addysgu Ieithoedd, Addysgu Ieithoedd Tramor Modern i ddysgwyr iau ac Arfer Ystafell Ddosbarth. I'r rhai hynny sy'n dymuno arbenigo mewn cyfieithu, mae'r modiwlau sydd ar gael yn cynnwys Gweithdai Cyfieithu (ar gael ym mhob iaith), Cyflwyniad i Ddamcaniaeth Cyfieithu, a Chyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur.