Myfyrwyr yn trio siwmperi yn siop y brifysgol

Gall deall manteision mynd i'r brifysgol fod yn allweddol wrth gynghori eich myfyrwyr ar ddewis y llwybr cywir, yn enwedig os nad oes neb yn eu teulu wedi ystyried addysg uwch o'r blaen.

Ennyn brwdfrydedd

Yn y brifysgol, gall myfyrwyr ganolbwyntio ar un neu ddau bwnc craidd sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Gall y dewis a'r hyblygrwydd hyn fod yn ddeniadol iddynt ar ôl astudio nifer o bynciau yn yr ysgol neu'r coleg. Bydd darlithoedd mawr yn cyflwyno pynciau ar lefel y brifysgol i fyfyrwyr, tra bydd grwpiau tiwtorial bach yn galluogi trafodaeth fanwl. Gall myfyrwyr hefyd ofyn am amser un i un gyda darlithwyr yn ystod oriau swyddfa agored, gan gael cymorth academaidd uniongyrchol.

Gwella rhagolygon gyrfa

Mae data am ragolygon graddedigion yn cael eu cyhoeddi mewn prosbectysau ac mae'n galluogi myfyrwyr i gymharu pa raddau fydd yn rhoi'r lefel uchaf o ddiogelwch swydd iddynt yn y dyfodol. Mae 95% o raddedigion Abertawe mewn cyflogaeth, ar raglenni astudio a/neu’n ymgymryd â gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023). Bydd rhai cyrsiau hefyd yn cynnig blwyddyn dramor neu flwyddyn ym myd diwydiant, gan ddarparu amrywiaeth o brofiad i’w ddangos i gyflogwyr ar ôl graddio.

Ennill annibyniaeth

Er y gall fod yn her, mae astudio mewn lle newydd a byw oddi cartref yn rhoi annibyniaeth i fyfyrwyr. Mae angen iddynt reoli eu harian, trefnu gweithgareddau domestig megis coginio a glanhau a gwneud ffrindiau mewn amgylchedd anghyfarwydd. Mae'r brifysgol yn ffordd wych o ymarfer y sgiliau bywyd hyn yn enwedig gyda chymorth Cyllid Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr sydd ar gael yn y rhan fwyaf o brifysgolion. Fel arfer, mae myfyrwyr yn cwrdd â ffrindiau am oes yn y brifysgol am fod cymdeithasu mewn preswylfeydd, darlithoedd ac mewn clybiau a chymdeithasau'n cysylltu pobl o'r un meddylfryd.

Datblygu sgiliau allweddol

Yn ogystal â'r sgiliau domestig hyn, mae'r brifysgol yn meithrin sgiliau allweddol myfyrwyr. Mae rheoli amser yn hanfodol i astudio'n annibynnol. Gellir defnyddio menter i ymuno â gweithgareddau allgyrsiol a bydd eu gallu i gyfathrebu'n cael ei estyn ym mhopeth o grwpiau tasg i aseiniadau ysgrifenedig. Hyd yn oed os yw myfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud gyrfa heb gysylltiad uniongyrchol â'u gradd, mae cyflogwyr i gyd yn cydnabod y sgiliau y mae gradd yn eu cynrychioli.

Os hoffech i un o'n Swyddogion Recriwtio Myfyrwyr siarad â'ch myfyrwyr am y manteision hyn, gallwch ofyn am sgwrs gan y tîm.