Myfyrwyr yn siarad â staff mewn diwrnod agored

Bydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion dimau Recriwtio ac Allgymorth Myfyrwyr sy'n rheoli perthnasoedd ag ysgolion a cholegau ledled y wlad. Bydd y timau hyn fel arfer yn gyfrifol am ardaloedd rhanbarthol penodol, a byddant naill ai'n byw yn yr ardaloedd hyn neu'n teithio i'r ardaloedd hyn yn rheolaidd i ddarparu cymorth addysg uwch i ysgolion.

Fel pwynt cyswllt cyntaf i chi, bydd cyfeiriad e-bost y Swyddfa Recriwtio ar gael ar wefannau'r prifysgolion. Fel arall, os hoffech chi gysylltu’n uniongyrchol â’ch cynrychiolydd rhanbarthol, bydd teclyn chwilio defnyddiol UniTasterDays yn eich helpu i wneud hynny. Dewch i gwrdd â'n tîm i ddysgu rhagor.

Y cymorth a gynigir

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r cyswllt cywir,  bydd timau Recriwtio Myfyrwyr yn gallu cynnig llwyth o gymorth, gan gynnwys -

  • Dod i'ch ffair yrfaoedd, llenwi stondin â deunyddiau gwybodaeth am eu prifysgol.
  • Mynd i arddangosiadau mawr (UCAS, UK University Search, WhatUni Live etc.) ochr yn ochr â channoedd o ddarparwyr eraill.
  • Rhoi cyflwyniadau yn eich sefydliad chi ar amrywiaeth o bynciau wedi'u teilwra ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 12 a 13. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydyn ni'n canolbwyntio ar feysydd fel -
  • Pam Addysg Uwch a Dewis Eich Cwrs
  • Proses UCAS
  • Datganiadau Personol (gan gynnwys y newidiadau i fynediad yn 2026)
  • Bywyd Myfyrwyr
  • Cyllid Myfyrwyr
  • Sgiliau Cyfweliad
  • Anfon cylchlythyrau misol sy'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y sector, manylion am ddigwyddiadau'r brifysgol a deunyddiau i'w hargraffu ar gyfer eich ystafelloedd cyffredin.

… a mwy! Hefyd gellir teilwra pynciau i gyd-fynd â'ch cwricwlwm gyrfaoedd. Mae gweithgareddau eraill a fydd fel arfer ar gael yn cynnwys sesiynau gweithdai rhyngweithiol, cymorthfeydd unigol ar gyfer datganiadau personol a chymorth ar gyfer ffug gyfweliadau. Gweler ein tudalen sgyrsiau a gweithdai am ragor o wybodaeth.

Cofiwch

Pan fyddwch chi'n cysylltu â'r timau hyn, dyma ychydig o bethau i'w cadw mewn cof –

  • Mae'r calendr recriwtio yn tueddu i fod yn brysur iawn ym mis Hydref, Mawrth, Ebrill a Mehefin, felly mae'n well trefnu ymhell ymlaen llaw os hoffech chi gynnal ymweliadau yn ystod y misoedd hyn.
  • Meddyliwch am y cyrchfannau sydd fwyaf poblogaidd ymhlith eich myfyrwyr. Ydyn nhw'n tueddu i aros yn lleol? Allen nhw fod yn edrych ymhellach? Drwy gadw hyn mewn golwg wrth gysylltu â phrifysgolion, gallwch chi gyfoethogi'r rhyngweithio a chyflwyno cyfleoedd nad oedd y myfyrwyr wedi'u hystyried.
  • Mae'r holl weithgareddau am ddim! Mae timau recriwtio yn cael eu talu'n uniongyrchol gan brifysgolion, felly ni fydd angen talu am unrhyw weithgareddau rydych yn gofyn amdanynt.
  • Mae Swyddogion Recriwtio yn teithio llawer yn ystod y tymor - gallwn ni fynd o Fôn i Fynwy i gyd mewn un wythnos. Drwy werthfawrogi hyn, gallech chi gryfhau cysylltiadau â'r timau hyn.

Cysylltwch â ni os hoffech drefnu gweithgaredd allgymorth o Abertawe!