Mae Blwyddyn Sylfaen yn rhaglen amser llawn blwyddyn o hyd. Bydd y flwyddyn yn eich arfogi â'r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol mewn meysydd megis:

  • Dadansoddi ac Ymchwil
  • Meddwl yn Feirniadol
  • TG a Llythrennedd Digidol
  • Yn ogystal â datblygu dy sgiliau cyfathrebu i lefel Addysg Uwch i'th baratoi ar gyfer dy radd israddedig.

Drwy ymuno â rhaglen gyda Blwyddyn Sylfaen, gelli di ddechrau dy astudiaethau'n gwybod ein bod yma i'th gefnogi. Bydd dy flwyddyn sylfaen yn darparu pontio llyfn i Addysg Uwch, sy'n dy alluogi i ddechrau dy daith yn y brifysgol yn Abertawe yn gynt nag y byddi di'n ei feddwl.

Beth yw blwyddyn sylfaen?

Mae Blwyddyn Sylfaen yn rhaglen sy'n cyfuno astudiaethau academaidd â datblygu sgiliau ymarferol. Wrth gwblhau Blwyddyn Sylfaen, bydd gennyt gynnydd wedi'i warantu at radd israddedig.

Pam dechrau gyda blwyddyn sylfaen yn Abertawe?

Mae sawl rheswm dros ystyried ymgymryd â Blwyddyn Sylfaen, gan gynnwys:

  • Datblygu Sgiliau - Byddi di'n ennill yr wybodaeth a’r sgiliau gwerthfawr sydd eu hangen arnat mewn Addysg Uwch
  • Cynnydd wedi'i Warantu - Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen, gelli di bontio'n ddidrafferth i'th radd israddedig ddewisol, heb gyflwyno cais arall.
  • Amgylchedd Cefnogol - Fel myfyriwr Prifysgol Abertawe, byddi di'n mwynhau cyfleusterau ardderchog, addysgu o'r radd flaenaf a chymuned myfyrwyr fywiog, sy'n canolbwyntio ar dy baratoi ar gyfer dy radd.
  • Dechrau dy Radd ar Unwaith - Os nad wyt ti wedi bodloni'r graddau sydd eu hangen arnat er mwyn dechrau dy radd israddedig, bydd Blwyddyn Sylfaen yn llenwi'r bwlch hwn i ti, ac yn dy alluogi i ddechrau astudio yn y brifysgol gyda blwyddyn ychwanegol sy'n dy baratoi ar gyfer dy radd.

Cwestiynau Cyffredin