Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd Daearyddiaeth BSc yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n gwybod bod ganddynt fwy o ddiddordeb mewn daearyddiaeth ffisegol. Byddwch yn ymdrin â themâu daearyddol gan gynnwys amgylcheddau a phrosesau rhewlifol, newid yn yr hinsawdd, meteoroleg a thechnoleg platiau.
Caiff myfyrwyr o bob cwr o'r byd eu denu i astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Dysgir y cyrsiau daearyddiaeth ar gampws Parc Singleton yn edrych dros Fae Abertawe.
Caiff yr hyn y byddwch yn ei ddysgu ei lywio gan academyddion ysbrydoledig a gydnabyddir yn rhyngwladol gan gynnwys yr Athro Tavi Murray, y ferch gyntaf i ennill Medal Polar am ei gwasanaeth eithriadol i ymchwil begynol; a'r Athro Adrian Luckman, a gafodd sylw yn y cyfryngau byd-eang am ei ymchwil i gwymp llen iâ Larsen C ym maes newid yn yr hinsawdd.