Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Mae ein rhaglen yn cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, , gan eich galluogi i ymgysylltu’n llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr
Credwn mewn meithrin amgylchedd dysgu lle mae myfyrwyr yn ymgysylltu'n weithredol â chysyniadau ffiseg trwy arbrofi, dadansoddi data, a datrys problemau. Rydym yn cynnig sesiynau cymorth galw heibio Mathemateg wythnosol anffurfiol i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau datrys problemau. Mae'r rhain yn cael eu mentora gan fyfyrwyr ôl-raddedig.
Rydym yn defnyddio dysgu seiliedig ar ymholi, labordai a gwaith ymarferol a mathau amrywiol o asesu drwy gydol y rhaglen. Mae'r labordai a'r gwaith ymarferol yn hyrwyddo ymgysylltu gweithredol, dysgu ymarferol, datblygu sgiliau amrywiol a phrofiad yn y byd go iawn. Mae modiwlau'r prosiect ymchwil yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn ymchwil bywyd go iawn, gan weithio ar broblemau/cwestiynau’r byd go iawn. Cynhelir darlithoedd mewn sesiynau grŵp mwy, mewn darlithfeydd. Mae cynnwys y cwrs yn cael ei archwilio'n fanylach mewn gweithdai, gan ganiatáu cydweithio pellach gyda'ch cyfoedion.
Mae recordiadau o ddarlithoedd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn Canvas, ein hamgylchedd dysgu rhithwir, fel fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudio hyblyg pellach.
Gall y cwrs hwn gynnig rhai modiwlau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Am ragor o fanylion am y ddarpariaeth sydd ar gael, gweler yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.