Trosolwg o'r Cwrs
Mae Ffiseg Ddamcaniaethol yn mynd i'r afael ag ystyr popeth drwy ddefnyddio iaith mathemateg i ddeall y bydysawd. O wybodaeth gwantwm a damcaniaethau unedig mawreddog ffiseg gronynnau, i fater tywyll a chosmoleg, gall y pwnc hwn fynd â chi i unrhyw le.
Mae ein gradd MPhys Ffiseg Ddamcaniaethol pedair blynedd yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd yn dymuno dod yn ffisegwyr proffesiynol. Byddwch yn dysgu sut mae technegau ffiseg a mathemateg sylfaenol yn cael eu defnyddio er mwyn deall datblygiadau mewn gwybodaeth gwantwm, dysgu peirianyddol, cosmoleg, lled-ddargludyddion, laserau, a ffiseg niwclear a gronynnol.
Byddwch yn archwilio'r cwestiynau mawr, fel sut dechreuodd y bydysawd, beth mae gofod ac amser wedi'u gwneud ohono, ac a yw'n bosibl ail-greu mewn labordy yr amodau a oedd yn bodoli eiliadau ar ôl y glec fawr?
Byddwch yn gweithio ar brosiect uwch MPhys sy'n flwyddyn o hyd ac yn dysgu sut i gynnal ymchwil sydd ar flaen y gad yn y meysydd hyn, dan oruchwyliaeth ffisegwyr damcaniaethol a gydnabyddir yn rhyngwladol.