Trosolwg o'r Cwrs
Wrth astudio am ein gradd Ieithoedd Modern gyda blwyddyn dramor, gallwch astudio hyd at ddwy iaith graidd (gallwch ddewis rhwng Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg), a fydd yn eich helpu i ddod yn rhan o gymuned fyd-eang ac yn agor drysau i ystod eang o yrfaoedd.
Yn ogystal â'ch modiwlau iaith craidd, byddwch hefyd yn astudio modiwlau mewn astudiaethau diwylliannol, addysg a chyfieithu drwy ein llwybrau pwrpasol ac unigryw, ac mae opsiynau iaith ychwanegol ar gael mewn Catalaneg, Portiwgaleg ac Eidaleg.
Byddwch hefyd yn treulio blwyddyn dramor, naill ai ar leoliad gwaith am dâl neu'n astudio yn un o'n sefydliadau partner – cyfle cyffrous a gwerthfawr a fydd yn gwella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.