- Disgrifiad
Mae'r rhaglen radd hon am dair neu bedair blynedd yn dwyn ynghyd astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth, gydag ymagweddau dan arweiniad ymarfer at y gyfraith a'i pherthynas â gwleidyddiaeth.
Bydd gennych opsiwn i fynd yn syth i'r drydedd flwyddyn. Fel arall, gallwch ymgymryd ag interniaeth â thâl mewn lleoliad cyfreithiol ar gyfer eich trydedd flwyddyn, ac yna bydd eich pedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad uniongyrchol o ymarfer cyfreithiol ac ennill sgiliau a fydd yn ddefnyddiol yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai hynny sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Drwy gydol eich gradd, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn cael sylfaen gynhwysfawr o'r meysydd craidd sy'n rhan o radd yn y Gyfraith. Yn ogystal, cynigir ystod eang o fodiwlau dewisol mewn meysydd pwnc gan gynnwys moeseg feddygol, cyfraith fasnachol, cyfraith teulu a chyfraith amgylcheddol.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio cysyniadau ym maes Gwleidyddiaeth er enghraifft y gallu i ddadansoddi a gwerthuso dadleuon allweddol mewn twyllwybodaeth wleidyddol, rôl sefydliadau gwleidyddol, meddwl gwleidyddol, gweithredoedd cudd y wladwriaeth a gwleidyddiaeth a diwylliant niwclear.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Medi 2024
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.