Diweddariad Covid-19 - Darllenwch y 'Diweddariad Covid Dysgu ac Addysgu' isod.
Ym mlwyddyn gyntaf eich astudiaethau, cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd a thiwtorialau. Y dull asesu fydd gwaith cwrs, traethawd ac arholiad.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Mae'r dull asesu'n amrywiol, gan gynnwys gwaith cwrs, traethodau, cyflwyniadau grŵp ac arholiad.
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio'n annibynnol drwy ddulliau ymchwil, traethawd hir neu bortffolio ymarfer, a chewch hefyd eich addysgu drwy seminarau a gwaith grŵp. Mae'r dulliau asesu'n cynnwys traethawd hir ymchwil annibynnol, cyflwyniad annibynnol, gwaith cwrs ac arholiad.
Mae ein dysgu ac addysgu yn gwella'ch sgiliau allweddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn graddedigion fel a ganlyn:
- Hunanreolaeth (mynychu dosbarthiadau, bodloni dyddiadau cau, paratoi ar gyfer seminarau, traethawd hir)
- Gweithio fel tîm (cyflwyniadau grŵp, seminarau grŵp, teithiau astudio a phrosiectau)
- Ymwybyddiaeth cwsmeriaid (astudio dramor, interniaethau, lleoliadau gwaith, profiad y myfyrwyr)
- Datrys problemau (ysgrifennu traethodau, ymchwil, arholiadau)
- Cyfathrebu a llythrennedd (traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, gwaith prosiect, traethawd hir)
- Sgiliau rhifedd (dadansoddi data, ystadegau)
- Technoleg gwybodaeth (Canvas, traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol)